Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 14 beibl.net 2015 (BNET)

Dienyddio Ioan Fedyddiwr

1. Tua'r adeg yna clywodd y llywodraethwr Herod y straeon am Iesu.

2. Dwedodd wrth ei swyddogion, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna pam mae'n gallu gwneud gwyrthiau.”

3. Herod oedd wedi arestio Ioan Fedyddiwr a'i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias, gwraig ei frawd, Philip.

4. Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro: “Dydy'r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti ei chymryd hi.”

5. Er bod Herod eisiau lladd Ioan, roedd ganddo ofn gwneud hynny am fod y bobl yn ystyried Ioan yn broffwyd.

6. Ond yna, ar ddiwrnod pen-blwydd Herod dyma ferch Herodias yn perfformio dawns yn y parti. Roedd hi wedi plesio Herod cymaint

7. nes iddo dyngu ar lw y byddai'n rhoi iddi beth bynnag oedd hi'n gofyn amdano.

8. Gyda'i mam yn ei hannog, dwedodd wrtho, “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr, a'i roi i mi ar hambwrdd.”

9. Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl, ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, rhoddodd orchymyn iddo gael ei roi iddi.

10. Anfonodd filwyr i'r carchar i dorri pen Ioan i ffwrdd.

11. Wedyn, dyma nhw'n dod â'r pen ar hambwrdd a'i roi i'r ferch fach, a rhoddodd hithau e i'w mam.

12. Dyma ddisgyblion Ioan yn cymryd y corff a'i gladdu, ac wedyn yn mynd i ddweud wrth Iesu beth oedd wedi digwydd.

Iesu'n bwydo'r pum mil

13. Pan glywodd Iesu beth oedd wedi digwydd, aeth i ffwrdd mewn cwch i le tawel i fod ar ei ben ei hun. Ond clywodd y tyrfaoedd am hyn, a'i ddilyn ar droed o'r trefi.

14. Pan gyrhaeddodd Iesu'r lan, roedd gweld y dyrfa fawr yno yn ennyn tosturi ynddo, a iachaodd y rhai oedd yn sâl.

15. Roedd hi'n dechrau nosi, felly dyma'r disgyblion yn dod ato a dweud, “Mae'r lle yma'n anial ac mae'n mynd yn hwyr. Anfon y bobl i ffwrdd, iddyn nhw gael mynd i'r pentrefi i brynu bwyd.”

16. Atebodd Iesu, “Does dim rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd. Rhowch chi rywbeth i'w fwyta iddyn nhw.”

17. Medden nhw wrtho, “Dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd gynnon ni.”

18. “Dewch â nhw i mi,” meddai.

19. A dwedodd wrth y bobl am eistedd i lawr ar y glaswellt. Wedyn cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a rhoi'r torthau i'w ddisgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl.

20. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau oedd wedi eu gadael dros ben.

21. Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant!

Iesu'n cerdded ar y dŵr

22. Dyma Iesu'n gwneud i'w ddisgyblion fynd yn ôl i'r cwch a chroesi drosodd o'i flaen.

23. Ar ôl iddo anfon y dyrfa adre, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo. Roedd yno ar ei ben ei hun ac roedd hi'n nosi.

24. Erbyn hynny roedd y cwch yn bell o'r tir, ac yn cael ei daro gan y tonnau am fod y gwynt yn ei erbyn.

25. Yna, rywbryd ar ôl tri o'r gloch y bore, aeth Iesu allan atyn nhw, gan gerdded ar y dŵr.

26. Pan welodd y disgyblion e'n cerdded ar y llyn, roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Ysbryd ydy e!” medden nhw, gan weiddi mewn ofn.

27. Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Mae'n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.”

28. “Arglwydd, os mai ti sydd yna” meddai Pedr, “gad i mi ddod atat ti ar y dŵr.”

29. “Iawn, tyrd,” meddai Iesu. Yna camodd Pedr allan o'r cwch a dechrau cerdded ar y dŵr tuag at Iesu.

30. Ond pan welodd mor gryf oedd y gwynt, roedd arno ofn. Dechreuodd suddo, a gwaeddodd allan “Achub fi, Arglwydd!”

31. Dyma Iesu'n estyn ei law allan a gafael ynddo. “Ble mae dy ffydd di?” meddai wrtho, “Pam wnest ti amau?”

32. Wrth iddyn nhw ddringo i mewn i'r cwch dyma'r gwynt yn tawelu

33. Dyma'r rhai oedd yn y cwch yn ei addoli, a dweud, “Ti ydy Mab Duw go iawn.”

Iesu yn iacháu pobl yn Genesaret

34. Ar ôl croesi'r llyn, dyma nhw'n glanio yn Genesaret.

35. Dyma'r dynion yno yn nabod Iesu, ac yn anfon i ddweud wrth bawb drwy'r ardal i gyd. Roedd pobl yn dod â phawb oedd yn sâl ato

36. ac yn pledio arno i adael iddyn nhw gyffwrdd y taselau ar ei glogyn. Roedd pawb oedd yn ei gyffwrdd yn cael eu hiacháu.