Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 1 beibl.net 2015 (BNET)

Achau Iesu y Meseia

1. Rhestr achau Iesu y Meseia, oedd yn un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd, ac Abraham hefyd:

2. Abraham oedd tad Isaac,Isaac oedd tad Jacob,Jacob oedd tad Jwda a'i frodyr,

3. Jwda oedd tad Peres a Sera (a Tamar oedd eu mam),Peres oedd tad Hesron,Hesron oedd tad Ram,

4. Ram oedd tad Aminadab,Aminadab oedd tad Nahson,Nahson oedd tad Salmon,

5. Salmon oedd tad Boas (a Rahab oedd ei fam),Boas oedd tad Obed (a Ruth oedd ei fam),Obed oedd tad Jesse,

6. a Jesse oedd tad y Brenin Dafydd.Dafydd oedd tad Solomon (ac roedd ei fam wedi bod yn wraig i Wreia),

7. Solomon oedd tad Rehoboam,Rehoboam oedd tad Abeia,Abeia oedd tad Asa,

8. Asa oedd tad Jehosaffat,Jehosaffat oedd tad Jehoram,Jehoram oedd tad Wseia,

9. Wseia oedd tad Jotham,Jotham oedd tad Ahas,Ahas oedd tad Heseceia,

10. Heseceia oedd tad Manasse,Manasse oedd tad Amon,Amon oedd tad Joseia,

11. a Joseia oedd tad Jechoneia a'i frodyr (a hynny ar yr adeg y cafodd yr Iddewon eu caethgludo i Babilon).

12. Ar ôl y gaethglud i Babilon:Jechoneia oedd tad Shealtiel,Shealtiel oedd tad Sorobabel,

13. Sorobabel oedd tad Abiwd,Abiwd oedd tad Eliacim,Eliacim oedd tad Asor,

14. Asor oedd tad Sadoc,Sadoc oedd tad Achim,Achim oedd tad Eliwd,

15. Eliwd oedd tad Eleasar,Eleasar oedd tad Mathan,Mathan oedd tad Jacob,

16. a Jacob oedd tad Joseff (gŵr Mair – y ferch gafodd Iesu, y Meseia, ei eni iddi).

17. Felly roedd un deg pedair cenhedlaeth o Abraham i'r Brenin Dafydd, un deg pedair cenhedlaeth o Dafydd hyd nes i'r Iddewon gael eu caethgludo i Babilon, ac un deg pedair cenhedlaeth o'r gaethglud i'r Meseia.

Geni Iesu y Meseia

18. Dyma ddigwyddodd pan gafodd Iesu y Meseia ei eni: Roedd ei fam, Mair, wedi cael ei haddo i fod yn wraig i Joseff. Ond cyn iddyn nhw briodi a chael rhyw, dyma nhw'n darganfod fod yr Ysbryd Glân wedi ei gwneud hi'n feichiog.

19. Roedd Joseff, oedd yn mynd i'w phriodi, yn ddyn da a charedig. Doedd e ddim eisiau gwneud esiampl ohoni a'i chyhuddo hi'n gyhoeddus, felly roedd yn ystyried yn dawel fach i ganslo'r briodas.

20. Roedd wedi bod yn meddwl am hyn pan gafodd freuddwyd: gwelodd angel Duw yn dod ato a dweud wrtho, “Joseff fab Dafydd, paid petruso mynd â Mair adre i fod yn wraig i ti, am mai'r Ysbryd Glân sydd wedi gwneud iddi feichiogi.

21. Bachgen fydd hi'n ei gael. Rwyt i roi'r enw Iesu iddo, am mai fe fydd yn achub ei bobl o'u pechodau.”

22. Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir:

23. “Edrychwch! Bydd merch ifanc sy'n wyryf yn feichiog ac yn cael mab. Bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel” (Ystyr Emaniwel ydy “Mae Duw gyda ni.”)

24. Pan ddeffrodd Joseff, gwnaeth beth roedd angel Duw wedi ei ddweud wrtho. Priododd Mair,

25. ond chafodd e ddim rhyw hefo hi nes i'w mab gael ei eni. A rhoddodd yr enw Iesu iddo.