Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28

Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 4 beibl.net 2015 (BNET)

Iesu'n cael ei demtio

1. Yn syth wedyn dyma'r Ysbryd yn arwain Iesu allan i'r anialwch i gael ei demtio gan y diafol.

2. Ar ôl bwyta dim byd am bedwar deg diwrnod, roedd yn llwgu.

3. Dyna pryd y daeth y diafol i'w demtio. “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i'r cerrig yma droi'n fara,” meddai.

4. “Na!”, atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud mai ‘Nid bwyd ydy'r unig beth mae pobl ei angen i fyw, ond popeth mae Duw yn ei ddweud.’”

5. Wedyn dyma'r diafol yn mynd â Iesu i'r ddinas sanctaidd (hynny ydy Jerwsalem) a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml.

6. “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o'r fan yma. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd Duw yn gorchymyn i'w angylion dy ddal yn eu breichiau, fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.’”

7. Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi'r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’”

8. Yna dyma'r diafol yn mynd ag e i ben mynydd uchel iawn, a dangos holl wledydd y byd a'u cyfoeth iddo.

9. A dwedodd y diafol wrtho, “Cei di'r cwbl gen i os gwnei di blygu i lawr i fy addoli i.”

10. Ond dyma Iesu'n dweud, “Dos i ffwrdd Satan! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e'n unig.’”

11. Yna dyma'r diafol yn ei adael, a daeth yr angylion ato a gofalu amdano.

Iesu'n dechrau pregethu yn Galilea

12. Pan glywodd Iesu fod Ioan wedi cael ei garcharu, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea.

13. Ond yn lle mynd i Nasareth, aeth i fyw i Capernaum sydd ar lan y llyn yn ardal Sabulon a Nafftali.

14. Felly dyma beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir:

15. “Tir Sabulon a thir Nafftali, sydd ar Ffordd y Môr,a'r ardal yr ochr draw i Afon Iorddonen,hynny ydy Galilea, lle mae pobl o genhedloedd eraill yn byw –

16. Mae'r bobl oedd yn byw mewn tywyllwch wedi gweld golau llachar; ac mae golau wedi gwawrio ar y rhai sy'n byw dan gysgod marwolaeth.”

17. Dyna pryd y dechreuodd Iesu gyhoeddi ei neges, “Trowch gefn ar bechod, achos mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.”

Galw'r disgyblion cyntaf

18. Un tro roedd Iesu'n cerdded ar lan Llyn Galilea, a gwelodd ddau frawd – Simon, roedd pawb yn ei alw'n Pedr, a'i frawd Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn.

19. Dyma Iesu'n galw arnyn nhw, “Dewch, dilynwch fi, a gwna i chi'n bysgotwyr sy'n dal pobl yn lle pysgod.”

20. Heb oedi, dyma'r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl.

21. Wrth gerdded yn ei flaen, gwelodd Iesu ddau frawd arall, Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw mewn cwch hefo Sebedeus eu tad yn trwsio eu rhwydi. Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd,

22. a dyma nhw'n gadael y cwch a'u tad a dechrau dilyn Iesu.

Iesu'n iacháu cleifion

23. Roedd Iesu'n teithio ar hyd a lled Galilea, yn dysgu'r bobl yn y synagogau, yn cyhoeddi'r newyddion da am deyrnasiad Duw, ac yn iacháu pob afiechyd a salwch oedd ar bobl.

24. Daeth Iesu'n enwog y tu allan i Galilea, ac roedd pobl o bob rhan o Syria yn dod â phawb oedd yn sâl ato – pobl oedd yn dioddef o afiechydon gwahanol, neu mewn poen, eraill yng ngafael cythreuliaid, yn dioddef o ffitiau epileptig, neu wedi eu parlysu. Iachaodd Iesu nhw i gyd.

25. Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn i bobman – pobl o Galilea, y Decapolis, Jerwsalem a Jwdea, ac o'r ochr draw i Afon Iorddonen.