Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 8 beibl.net 2015 (BNET)

Addo Adfer Jerwsalem

1. Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD holl-bwerus:

2. “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Dw i'n teimlo i'r byw dros Seion. Dw i wedi gwylltio'n lân am beth maen nhw wedi ei wneud iddi.’

3. “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n dod yn ôl i Fynydd Seion, a bydda i'n byw yn Jerwsalem. Bydd Jerwsalem yn cael ei galw "Y Ddinas Ffyddlon", "Mynydd yr ARGLWYDD holl-bwerus", "Y Mynydd Cysegredig".’

4. “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud hefyd, ‘Bydd dynion a gwragedd mewn oed yn eistedd ar sgwariau Jerwsalem unwaith eto – pob un yn pwyso ar ei ffon am eu bod nhw mor hen.

5. A bydd sgwariau'r ddinas yn llawn plant – bechgyn a merched yn chwarae'n braf.

6. Falle fod y peth yn swnio'n amhosibl i'r criw bach ohonoch chi sydd yma nawr,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—‘ond ydych chi'n meddwl ei fod yn amhosibl i mi?’

7. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Dw i'n mynd i achub fy mhobl o wledydd y dwyrain a'r gorllewin,

8. a dod â nhw'n ôl i Jerwsalem i fyw. Fy mhobl i fyddan nhw, a bydda i'n Dduw iddyn nhw. Bydda i'n ffyddlon ac yn deg â nhw.

9. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Dych chi'n clywed heddiw yr un peth gafodd ei ddweud gan y proffwydi pan gafodd sylfaeni teml yr ARGLWYDD holl-bwerus eu gosod i'w hadeiladu eto, sef, ‘Daliwch ati!

10. Cyn hynny doedd pobl nac anifeiliaid yn ennill dim am eu gwaith! Doedd hi ddim yn saff i bobl fynd a dod. Ro'n i'n gwneud i bawb dynnu'n groes i'w gilydd.

11. Ond nawr mae pethau'n mynd i fod yn wahanol i'r bobl yma sydd ar ôl,’—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

12. ‘Bydd llonydd i bobl hau cnydau. Bydd ffrwyth yn tyfu ar y winwydden, a'r tir yn rhoi cnwd da. Bydd yr awyr yn rhoi glaw a gwlith i'r ddaear. Dyna sut fydd hi bob amser i'r bobl yma sydd ar ôl!

13. O'r blaen, roeddech chi'n cael eich ystyried yn wlad wedi ei melltithio, Israel a Jwda. Ond dw i'n mynd i'ch achub chi, a byddwch chi'n amlwg yn bobl wedi eu bendithio. Peidiwch bod ag ofn! Daliwch ati!’

14. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Fel roeddwn i am eich cosbi chi pan oedd eich hynafiaid yn fy ngwylltio i (a dyna'n union beth wnes i),

15. dw i bellach am wneud pethau da i bobl Jerwsalem a Jwda – felly peidiwch bod ag ofn!

16. “‘Dyma beth dw i eisiau i chi ei wneud: Dwedwch y gwir wrth eich gilydd. Hybu cyfiawnder a thegwch yn y llysoedd barn.

17. Peidio bwriadu drwg i'ch gilydd. Peidio dweud celwydd ar lw. Dw i'n casáu pethau fel yna,’ meddai'r ARGLWYDD.”

Yr ateb i'r cwestiwn am Ymprydio

18. Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD holl-bwerus:

19. “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Bydd y dyddiau o ympryd yn y pedwerydd, pumed, seithfed a degfed mis yn troi'n ddigwyddiadau hapus – yn bartïon i bobl Jwda ddathlu! Ond rhaid caru'r gwir a byw yn heddychlon!’

20. “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud, ‘Ryw ddydd, bydd pobl o bob man yn dod yma.

21. Bydd pobl o un dref yn mynd i ddweud wrth dref arall, “Gadewch i ni droi at yr ARGLWYDD holl-bwerus, a gofyn iddo'n bendithio ni. Dewch gyda ni! Dŷn ni'n mynd!”’

22. Bydd lot o bobl wahanol, a gwledydd cryfion yn dod i Jerwsalem, ac yn gofyn i'r ARGLWYDD holl-bwerus eu bendithio nhw.

23. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Bryd hynny bydd deg o bobl o bob gwlad ac iaith yn gafael yn ymyl mantell Iddew, a dweud, ‘Gad i ni fynd gyda chi. Dŷn ni wedi clywed fod Duw gyda chi!’”