Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 1 beibl.net 2015 (BNET)

Galwad i droi'n ôl at yr ARGLWYDD

1. Yn yr wythfed mis o ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius, dyma'r proffwyd Sechareia (mab Berecheia ac ŵyr i Ido) yn cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:

2. “Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda'ch hynafiaid chi.

3. Felly dywed wrth y bobl: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi. Ie, dyna mae e'n ddweud.

4. Peidiwch bod yr un fath â'ch hynafiaid, oedd yn cymryd dim sylw o gwbl pan oedd y proffwydi yn dweud wrthyn nhw fy mod i eisiau iddyn nhw stopio gwneud pethau drwg, meddai'r ARGLWYDD.

5. A ble mae'ch hynafiaid chi bellach? Maen nhw a'r proffwydi wedi hen fynd!

6. Ond daeth y cwbl ddywedais i fyddai'n digwydd iddyn nhw yn wir! Roedden nhw'n edifar wedyn, ac roedd rhaid iddyn nhw gyfaddef, “Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi gwneud beth ddwedodd e, a dyna roedden ni'n ei haeddu.”’”

Gweledigaeth 1 – Ceffylau

7. Ar y pedwerydd ar hugain o fis un ar ddeg (sef mis Shebat) yn ail flwyddyn teyrnasiad Dareius, dyma'r proffwyd Sechareia yn cael neges arall gan yr ARGLWYDD. Dwedodd Sechareia:

8. Ces i weledigaeth yng nghanol y nos. Gwelais ddyn ar gefn ceffyl fflamgoch. Roedd e'n sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn y ceunant. Roedd ceffylau eraill tu ôl iddo – rhai fflamgoch, rhai llwyd a rhai gwyn.

9. Roedd angel yna wrth ymyl, a dyma fi'n gofyn iddo, “Beth ydy ystyr hyn, syr?” A dyma fe'n ateb, “Gwna i ddangos i ti.”

10. Yna dyma'r dyn oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn siarad, a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi anfon y rhain i chwilio a gweld beth sy'n digwydd ar y ddaear.”

11. A dyma'r marchogion eraill yn rhoi adroddiad i angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd: “Dŷn ni wedi bod i edrych dros y ddaear gyfan, ac mae pobman dan reolaeth ac yn dawel.”

12. Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn gofyn, “ARGLWYDD holl-bwerus, rwyt ti wedi bod yn flin gyda Jerwsalem a threfi eraill Jwda ers saith deg o flynyddoedd bellach. Am faint mwy, cyn i ti i ddangos trugaredd atyn nhw?”

13. A dyma'r ARGLWYDD yn ateb a dweud pethau caredig i gysuro'r angel oedd yn siarad â mi.

14. A dyma'r angel yn troi ata i, a dweud wrtho i, “Cyhoedda fod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud,‘Dw i'n teimlo i'r byw dros Jerwsalem a dros Seion.

15. Ond dw i wedi digio go iawn gyda'r gwledydd hynny sydd mor gyfforddus a hunanfodlon! Oeddwn, roeddwn i yn ddig gyda'm pobl, ond aeth y rhain yn rhy bell gyda'i creulondeb!

16. Felly, dw i'n mynd i droi'n ôl at Jerwsalem, a dangos trugaredd ati. Dw i'n mynd i adeiladu fy nheml yno eto. Bydd syrfëwr yn dod i fesur Jerwsalem unwaith eto.’ Ie, dyna mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud.

17. Cyhoedda'n uchel eto beth ydy neges yr ARGLWYDD holl-bwerus: ‘Bydd y trefi'n fwrlwm o fywyd ac yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, ac yn dangos eto ei fod wedi dewis Jerwsalem iddo'i hun,’”

Gweledigaeth 2 – Pedwar corn anifail

18. Pan edrychais eto, gwelais bedwar corn anifail.

19. Dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r cyrn yma?” A dyma fe'n ateb, “Y cyrn yma ydy'r gwledydd pwerus wnaeth yrru Jwda, Israel a Jerwsalem ar chwâl.”

20. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dangos pedwar gof i mi.

21. A dyma fi'n gofyn, “Beth mae'r rhain yn mynd i'w wneud?” A dyma fe'n ateb, “Y cyrn ydy'r gwledydd pwerus wnaeth yrru pobl Jwda ar chwâl, nes bod neb ar ôl. Ond mae'r gofaint wedi dod i ddychryn gelynion Jwda, a malu cyrn y gwledydd wnaeth ymosod arni a chwalu ei phobl i bob cyfeiriad.”