Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 12 beibl.net 2015 (BNET)

Achub Jerwsalem rhag ei gelynion

1. Y neges roddodd yr ARGLWYDD am Israel – ie, neges gan yr ARGLWYDD,Yr Un wnaeth ledu'r awyra gosod sylfaeni'r ddaear,a rhoi anadl bywyd i bobl.

2. “Dw i'n mynd i wneud Jerwsalem yn gwpan feddwol. Bydd yn gwneud i'r gwledydd o'i chwmpas feddwi'n gaib pan fyddan nhw'n ymosod arni hi a Jwda.

3. “Bryd hynny bydda i'n gwneud Jerwsalem yn garreg enfawr rhy drwm i'r gwledydd ei chario. Bydd pawb sy'n ceisio ei symud yn gwneud niwed difrifol iddyn nhw eu hunain! Bydd y gwledydd i gyd yn dod yn ei herbyn.”

4. “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “bydda i'n gwneud i'r ceffylau rhyfel ddrysu'n llwyr, ac yn gyrru'r marchogion i banig. Bydda i'n gwylio Jwda'n ofalus. Bydd fel petai ceffylau'r gelynion i gyd yn ddall!

5. Yna bydd arweinwyr Jwda yn sylweddoli mai cryfder pobl Jerwsalem ydy eu Duw, yr ARGLWYDD holl-bwerus.

6. “Bryd hynny bydda i'n gwneud arweinwyr Jwda fel padell dân mewn pentwr o goed, neu ffagl yn llosgi mewn tas wair. Byddan nhw'n llosgi'r gwledydd sydd o'u cwmpas. A bydd pobl Jerwsalem yn setlo i lawr unwaith eto yn eu cartref, dinas Jerwsalem.

7. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i fyddin Jwda gyntaf, fel bod arweinwyr Jerwsalem a llinach frenhinol Dafydd ddim yn cael mwy o anrhydedd na phobl gyffredin Jwda.

8. “Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD ei hun yn amddiffyn pobl Jerwsalem. Bydd y person gwannaf yn eu plith fel y Brenin Dafydd ei hun, a bydd y teulu brenhinol fel Duw, neu angel yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaenau.

Galaru drwy'r wlad

9. “Bryd hynny bydda i'n mynd ati i ddinistrio'r gwledydd sy'n ymosod ar Jerwsalem!

10. Bydda i'n tywallt ar deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem awydd i brofi haelioni Duw a'i faddeuant. Wrth edrych arna i, yr un maen nhw wedi ei drywanu, byddan nhw'n galaru fel mae pobl yn galaru am eu hunig fab. Byddan nhw'n wylo'n chwerw, fel rhieni'n wylo ar ôl colli eu hunig blentyn neu eu mab hynaf.

11. “Bryd hynny, bydd sŵn y galaru yn Jerwsalem fel y galaru yn Hadad-rimmon ar wastatir Megido.

12-13. Bydd y wlad i gyd yn galaru, pob clan ar wahân, a'r dynion a'r gwragedd yn galaru ar wahân – teulu brenhinol Dafydd, a'u gwragedd ar wahân; teulu Nathan, a'u gwragedd ar wahân; teulu Lefi, a'u gwragedd ar wahân; teulu Shimei, a'u gwragedd ar wahân;

14. a phob clan arall oedd ar ôl – pob teulu yn galaru ar eu pennau eu hunain, a'u gwragedd yn galaru ar eu pennau eu hunain.”