Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 14 beibl.net 2015 (BNET)

Y Frwydr Olaf a'r ARGLWYDD yn dod

1. Mae dydd yr ARGLWYDD yn dod, pan fydd eich eiddo i gyd yn cael ei gymryd a'i rannu o'ch blaen chi.

2. Dw i'n mynd i gasglu'r gwledydd at ei gilydd i ryfel yn erbyn Jerwsalem. Bydd y ddinas yn cael ei choncro, eich cartrefi'n cael eu gwagio, a'ch gwragedd yn cael eu treisio. Bydd hanner y boblogaeth yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion, ond yr hanner arall yn aros yn y ddinas.

3. Ond yna bydd yr ARGLWYDD yn mynd allan i ymladd yn erbyn y gwledydd hynny, fel gwnaeth e ymladd yn y gorffennol.

4. Bryd hynny bydd e'n sefyll ar Fynydd yr Olewydd i'r dwyrain o Jerwsalem. A bydd Mynydd yr Olewydd yn hollti o'r dwyrain i'r gorllewin, gan adael dyffryn llydan. Bydd hanner y mynydd yn symud tua'r gogledd, a hanner tua'r de.

5. A byddwch chi'n dianc ar hyd y dyffryn yma yr holl ffordd i Atsel, fel gwnaethoch chi ddianc adeg y daeargryn pan oedd Wseia'n frenin ar Jwda. Yna bydd fy ARGLWYDD Dduw yn dod, a'i angylion sanctaidd gydag e.

6. Bryd hynny fydd dim golau – bydd y sêr disglair yn rhewi.

7. Bydd yn ddiwrnod unigryw. Yr ARGLWYDD sy'n gwybod pryd. Fydd dim dydd na nos; ac eto bydd hi'n dal yn olau gyda'r nos.

8. Bryd hynny hefyd bydd dŵr glân croyw yn llifo allan o Jerwsalem – ei hanner yn llifo i'r dwyrain, i'r Môr Marw, a'r hanner arall i'r gorllewin, i Fôr y Canoldir. Bydd yn llifo rownd y flwyddyn, haf a gaeaf.

9. A bydd yr ARGLWYDD yn frenin dros y byd i gyd. Yr ARGLWYDD fydd yr unig un, a'i enw e fydd yn cael ei addoli.

10. Bydd y tir i gyd (o Geba i Rimmon, sydd i'r de o Jerwsalem) yn cael ei droi yn wastatir. Ond bydd Jerwsalem gyfan yn sefyll yn uchel yn ei lle – o Giât Benjamin i safle'r Giât gyntaf ac yna ymlaen at Giât y Gornel, ac o Dŵr Chanan-el i'r cafnau gwin brenhinol.

11. Bydd pobl yn byw yno, a fydd y ddinas byth eto'n cael ei melltithio a'i dinistrio. Bydd Jerwsalem yn hollol saff.

12. Ond bydd yr ARGLWYDD yn anfon pla i daro'r gwledydd hynny wnaeth ymosod ar Jerwsalem: Bydd eu cyrff yn pydru tra byddan nhw'n dal ar eu traed. Bydd eu llygaid yn pydru'n eu pennau. Bydd eu tafodau'n pydru'n eu cegau.

13. Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn achosi panig llwyr yn eu plith. Byddan nhw'n ymladd ei gilydd!

14. Bydd hyd yn oed Jwda yn ymuno yn y ffrwgwd! A bydd cyfoeth y gwledydd yn cael ei gasglu i Jerwsalem – aur, arian a llwythi o ddillad.

15. Bydd pla yn taro'r anifeiliaid yng ngwersylloedd y gelyn – bydd eu ceffylau, mulod, camelod, asynnod, a'r anifeiliaid eraill i gyd yn cael eu taro gan bla.

16. Yna bydd pawb fydd yn dal yn fyw (o'r gwledydd hynny wnaeth ymosod ar Jerwsalem) yn mynd i Jerwsalem bob blwyddyn i addoli'r Brenin, yr ARGLWYDD holl-bwerus, ac i ddathlu Gŵyl y Pebyll.

17. Ac os bydd unrhyw grŵp o bobl drwy'r byd i gyd yn gwrthod mynd i Jerwsalem i addoli'r Brenin, yr ARGLWYDD holl-bwerus, fyddan nhw'n cael dim glaw.

18. Os bydd yr Eifftiaid yn gwrthod mynd, fyddan nhw'n cael dim glaw. Bydd yr ARGLWYDD yn eu taro nhw gyda'r plâu mae'n eu hanfon ar y gwledydd hynny sy'n gwrthod mynd i ddathlu Gŵyl y Pebyll.

19. Dyna sut bydd yr Aifft ac unrhyw wlad arall sy'n gwrthod mynd i ddathlu'r Ŵyl, yn cael eu cosbi.

20. Bryd hynny bydd y geiriau “Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD” i'w gweld ar glychau harnais ceffylau. Bydd y crochanau i ferwi cig yn y Deml yr un mor gysegredig â'r powlenni taenellu o flaen yr allor.

21. Bydd pob crochan yn Jerwsalem a Jwda wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD holl-bwerus. Bydd y bobl sy'n dod i aberthu yn gallu eu defnyddio i ferwi cig yr aberthau ynddyn nhw. A bryd hynny fydd dim marchnatwyr yn nheml yr ARGLWYDD holl-bwerus.