Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 13 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Bryd hynny bydd ffynnon wedi ei hagor bob amser i deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem, i'w glanhau o bechod ac aflendid.”

Cael gwared ag eilun-dduwiau a phroffwydi ffals

2. “Bryd hynny hefyd,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunod o'r tir. Fydd neb yn cofio eu henwau nhw hyd yn oed. A bydda i hefyd yn cael gwared â'r proffwydi ffals a'r ysbrydion aflan o'r tir.

3. Wedyn os bydd rhywun yn proffwydo, bydd ei dad a'i fam yn dweud wrtho, ‘Rhaid i ti farw! Ti'n honni siarad ar ran yr ARGLWYDD, ond yn proffwydo celwydd!’ A bydd ei dad a'i fam yn ei drywanu i farwolaeth.

4. “Bryd hynny bydd gan broffwyd gywilydd o'i weledigaethau, a bydd yn ceisio cuddio'r gwir drwy stopio gwisgo clogyn blewog proffwydi.

5. Bydd yn gwadu popeth a dweud, ‘Fi? Dw i ddim yn broffwyd. Dw i wedi bod yn gweithio fel gwas ar y tir es pan oeddwn i'n ifanc.’

6. Yna bydd rhywun yn gofyn iddo, ‘Felly, beth ydy'r creithiau yna ar dy frest di?’ A bydd yn ateb, ‘Ces fy anafu yn nhÅ· ffrindiau.’”

Y Bugail a'r defaid

7. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud,“Deffra gleddyf! Ymosod ar fy mugail,y dyn sy'n agos ata i.Taro'r bugail,a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.Bydda i'n taro'r rhai bach hefyd.

8. Dyna fydd yn digwydd drwy'r wlad i gyd,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Bydd dwy ran o dair yn cael eu lladd,gan adael un rhan o dair ar ôl.

9. A bydda i'n arwain y rheiny trwy dân,i'w puro fel mae arian yn cael ei buro,a'i profi fel mae aur yn cael ei brofi.Byddan nhw'n galw ar fy enw i,a bydda i'n ateb.Bydda i'n dweud, ‘Fy mhobl i ydy'r rhain,’a byddan nhw'n dweud, ‘Yr ARGLWYDD ydy ein Duw ni.’”