Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 17 beibl.net 2015 (BNET)

Aberthu anifeiliaid

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

2. “Dywed wrth Aaron a'i ddisgynyddion, ac wrth bobl Israel i gyd mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei orchymyn:

3. Os ydy unrhyw un o bobl Israel yn aberthu bustach, dafad, neu afr, yn y gwersyll neu'r tu allan i'r gwersyll,

4. yn lle mynd â'r anifail at y fynedfa i'r Tabernacl i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn euog o dywallt gwaed. Mae e wedi tywallt gwaed, a bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.

5. Pwrpas y rheol yma ydy gwneud i bobl Israel ddod a'u haberthau i'r ARGLWYDD, at yr offeiriad o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, yn lle eu haberthu allan yn y wlad. Maen nhw i'w cyflwyno iddo yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.

6. Bydd yr offeiriad yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor wrth y fynedfa i'r Tabernacl, ac yn llosgi'r brasder fel offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

7. Dŷn nhw ddim i aberthu i'r gafr-ddemoniaid o hyn ymlaen. Maen nhw'n ymddwyn fel puteiniaid wrth wneud y fath beth. Fydd y rheol yma byth yn newid.

8. “Atgoffa nhw: Does neb o bobl Israel nag unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw i gyflwyno offrwm i'w losgi neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD,

9. oni bai ei fod yn dod â'r offrwm hwnnw at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Bydd unrhyw un sy'n gwneud yn wahanol yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.

Peidio bwyta gwaed

10. “Bydda i yn troi yn erbyn unrhyw un sy'n bwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo – un o bobl Israel neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw. Bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.

11. Mae bywyd yr anifail yn y gwaed. Dw i wedi ei roi i'w aberthu ar yr allor yn eich lle chi. Y bywyd yn y gwaed sy'n gwneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw.

12. Dyna pam dw i wedi dweud wrth bobl Israel fod neb ohonyn nhw, gan gynnwys mewnfudwyr o'r tu allan, i fwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo.

13. “Os ydy unrhyw un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, yn dal anifail neu aderyn sy'n iawn i'w fwyta, rhaid gadael i'r gwaed redeg allan ohono, ac wedyn gorchuddio'r gwaed hwnnw gyda pridd.

14. Mae bywyd pob creadur byw yn y gwaed. Dyna pam dw i wedi dweud wrth bobl Israel fod neb i fwyta cig unrhyw anifail gyda'r gwaed yn dal ynddo. Bydd pwy bynnag sy'n ei fwyta yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.

15. “Os ydy rhywun yn bwyta cig anifail sydd wedi marw neu gael ei ladd gan anifail gwyllt, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd. Ond ar ôl hynny bydd e'n lân.

16. Os nad ydy'r person hwnnw yn golchi ei ddillad ac yn ymolchi, bydd yn cael ei gosbi am ei bechod.”