Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 11 beibl.net 2015 (BNET)

Anifeiliaid sy'n iawn i'w bwyta

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron,

2. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma pa anifeiliaid gewch chi fwyta:

3. Unrhyw anifail sydd â charn fforchog (wedi ei rhannu'n ddwy), ac sy'n cnoi cil.

4-6. Ond peidiwch bwyta'r anifeiliaid sydd ddim ond yn cnoi cil neu sydd ond â charn fforchog. Mae unrhyw anifail sy'n cnoi cil ond heb garn fforchog i'w ystyried yn aflan – er enghraifft y camel, broch y creigiau, a'r ysgyfarnog.

7. A peidiwch bwyta moch – mae ganddyn nhw garn fforchog, ond dŷn nhw ddim yn cnoi cil. Felly maen nhw hefyd i'w hystyried yn aflan.

8. Peidiwch bwyta cig yr anifeiliaid yma. Peidiwch hyd yn oed cyffwrdd y carcas. Maen nhw i'w hystyried yn aflan.

9. “‘Cewch fwyta unrhyw greaduriaid sy'n byw yn y dŵr sydd ag esgyll a cennau arnyn nhw hefyd. Sdim ots os ydyn nhw'n byw yn y môr neu mewn afon.

10-12. Ond mae unrhyw greaduriaid sy'n heigio yn y dŵr ag sydd heb esgyll a cennau arnyn nhw i'w hystyried yn aflan. Peidiwch bwyta eu cig nhw na cyffwrdd un sydd wedi marw.

13-19. “‘Dyma restr o adar sydd i'w hystyried yn aflan, ac felly ddim i gael eu bwyta: gwahanol fathau o fwltur, barcud a boda, unrhyw fath o frân, gwahanol fathau o dylluan, pob math o hebog, y fulfran, gwalch y pysgod, y storc, unrhyw fath o grëyr, y copog, a'r ystlum hefyd.

20-23. “‘Mae unrhyw bryfed sy'n hedfan ac yn gwibio o gwmpas i'w hystyried yn aflan. Ond cewch fwyta'r pryfed hyn (sydd â choesau cymalog ac yn gallu neidio): pob math o locust, ceiliog rhedyn, cricedyn a sioncyn y gwair.

24-28. “‘Peidiwch cyffwrdd corff marw unrhyw anifail sydd â charn fforchog ond sydd ddim yn cnoi cil. Hefyd anifeiliaid sydd â phawennau. Byddan nhw'n eich gwneud chi'n aflan am weddill y dydd. A peidiwch pigo'r corff i fyny. Os gwnewch chi, rhaid i chi olchi eich dillad, a byddwch yn aflan am weddill y dydd.

29-32. “‘Mae'r creaduriaid yma i'w hystyried yn aflan iawn: y llygoden fawr, llygoden a madfall o unrhyw fath. Bydd rhywun sy'n cyffwrdd corff marw un ohonyn nhw yn aflan am weddill y dydd. Ac mae beth bynnag maen nhw'n syrthio arno pan maen nhw'n marw yn aflan – llestr pren, dilledyn, unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, neu sachliain, neu unrhyw declyn i wneud gwaith ag e. Beth bynnag ydy e, rhaid ei olchi mewn dŵr, a bydd yn aflan am weddill y dydd. Ar ôl hynny bydd e'n iawn i'w ddefnyddio eto.

33. Os ydy corff un ohonyn nhw'n cael ei ddarganfod mewn llestr pridd, rhaid torri'r llestr, ac mae popeth oedd ynddo yn aflan.

34. Os oes dŵr o'r llestr yn mynd ar fwyd, bydd y bwyd yn aflan. Ac os oedd diod yn y llestr, bydd hwnnw'n aflan.

35. Bydd beth bynnag mae corff marw un o'r creaduriaid yna yn ei gyffwrdd yn aflan. Os mai popty pridd neu stôf ydy e, rhaid ei falu.

36. Mae unrhyw ffynnon neu bydew i ddal dŵr yn dal yn lân. Ond bydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd corff y creadur yn aflan.

37. Os ydy'r corff yn cael ei ddarganfod ar had sydd i'w hau, bydd yr had yn aros yn lân.

38. Ond os ydy'r had wedi cael ei socian mewn dŵr, bydd yn aflan.

39. “‘Os ydy anifail sy'n iawn i'w fwyta yn marw, a rhywun yn cyffwrdd y corff, bydd yn aflan am weddill y dydd.

40. Mae pwy bynnag sy'n bwyta peth o'i gig neu'n cario'r corff i ffwrdd yn aflan. Rhaid iddo olchi ei ddillad, ond mae'n dal yn aflan am weddill y dydd.

41-43. “‘Mae'r creaduriaid bach sy'n llusgo ar lawr ar eu boliau, neu sydd â nifer fawr o goesau i'w hystyried yn aflan. Peidiwch bwyta nhw, neu byddwch chi'n gwneud eich hunain yn ffiaidd ac yn aflan.

44. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi gysegru'ch hunain yn llwyr i mi, a bod yn sanctaidd am fy mod i'n sanctaidd. Peidiwch gwneud eich hunain yn ffiaidd drwy fwyta un o'r creaduriaid aflan yma.

45. Fi ydy'r ARGLWYDD wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft i fod yn Dduw i chi. Rhaid i chi fod yn sanctaidd, am fy mod i yn sanctaidd.

46. “‘Dyma'r rheolau am anifeiliaid, adar, pysgod a'r creaduriaid eraill –

47. beth sy'n iawn i'w fwyta a beth sydd ddim.’”