Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 5 beibl.net 2015 (BNET)

Achosion lle mae angen offrwm i lanhau o bechod

1. “Pan mae rhywun yn gwrthod rhoi tystiolaeth mewn llys (ac yn gwybod neu wedi gweld beth ddigwyddodd), mae e'n euog, a bydd yn cael ei gosbi.

2. “Pan mae rhywun wedi cyffwrdd rhywbeth sy'n aflan trwy ddamwain (fel corff anifail neu greadur arall sy'n aflan), mae e'n euog ac mae e'i hun yn aflan.

3. “Pan mae rhywun wedi cyffwrdd trwy ddamwain unrhyw beth aflan sy'n dod o'r corff dynol, mae e'n euog y funud mae e'n sylweddoli beth sydd wedi digwydd.

4. “Pan mae rhywun yn fyrbwyll ac yn addo ar lw ei fod yn mynd i wneud rhywbeth – da neu ddrwg – mae e'n euog y funud mae e'n sylweddoli beth mae e wedi ei wneud.

5. “Pan mae rhywun yn sylweddoli ei fod yn euog o wneud un o'r pethau yma, rhaid iddo gyffesu beth mae wedi ei wneud.

6. Wedyn rhaid iddo dalu am y drwg mae wedi ei wneud drwy ddod â dafad neu afr i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm i'w lanhau o'i bechod. Bydd offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.

7. “Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio dafad neu afr, dylai ddod â dwy durtur neu ddwy golomen ifanc – un yn offrwm i lanhau o bechod a'r llall yn offrwm i'w losgi'n llwyr.

8. Rhaid dod â nhw i'r offeiriad. Wedyn bydd yr offeiriad yn cyflwyno un ohonyn nhw yn offrwm i lanhau o bechod. Bydd yn troi ei wddf ond heb dorri ei ben i ffwrdd.

9. Wedyn bydd yn taenellu peth o waed yr aderyn ar ochr yr allor. Bydd gweddill y gwaed yn cael ei wasgu allan wrth droed yr allor.

10. Wedyn bydd yr ail aderyn yn cael ei gyflwyno yn offrwm i'w losgi'n llwyr. Bydd yr offeiriad yn dilyn y ddefod arferol wrth ei gyflwyno. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r offrwm â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.

11. “Os ydy rhywun ddim yn gallu fforddio dwy durtur neu ddwy golomen ifanc, dylai ddod â cilogram o'r blawd gwenith gorau yn offrwm i'w lanhau o'i bechod. Rhaid peidio rhoi olew olewydd na thus arno am mai offrwm i'w lanhau o'i bechod ydy e.

12. Dylai roi'r blawd i'r offeiriad, a bydd yr offeiriad yn cymryd llond llaw ohono i'w losgi fel ernes ar yr allor gyda'r offrymau eraill. Mae'n offrwm i lanhau o bechod.

13. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r offrwm â Duw, pa un bynnag o'r pethau hyn mae e wedi ei wneud o'i le, a bydd Duw yn maddau iddo. Mae'r offeiriad yn cael gweddill y blawd, fel gyda'r offrwm o rawn.”

Offrwm i gyfaddef bai

14. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

15. “Pan mae rhywun yn pechu'n ddamweiniol ac yn torri'r rheolau am y pethau sanctaidd sydd i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD rhaid iddo ddod ag offrwm i gyfaddef bai. Yr offrwm fydd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno, neu gall dalu'r pris llawn am hwrdd gydag arian swyddogol y cysegr.

16. Mae e hefyd i dalu'r ddyled yn ôl ac ychwanegu 20% a'i roi i'r offeiriad. Felly bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r hwrdd â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei bechod.

17. “Os ydy rhywun yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD heb sylweddoli ei fod wedi gwneud hynny, mae'n euog, a bydd yn cael ei gosbi.

18. Rhaid i'r person hwnnw ddod â hwrdd heb ddim byd o'i le arno, neu gall dalu beth ydy gwerth yr hwrdd, yn offrwm i gyfaddef bai. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhwng y person sy'n cyflwyno'r hwrdd â Duw, a bydd Duw yn maddau iddo am ei gamgymeriad.

19. Mae'n offrwm i gyfaddef bai. Roedd y person yn euog o flaen yr ARGLWYDD.”