Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 12 beibl.net 2015 (BNET)

Puro gwraig ar ôl iddi eni plentyn

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses

2. “Dywed wrth bobl Israel: Pan mae gwraig yn cael babi, os mai bachgen ydy'r babi, bydd hi'n aflan am saith diwrnod (fel gyda'r misglwyf).

3. Pan mae'r bachgen yn wythnos oed rhaid iddo fynd trwy'r ddefod o gael ei enwaedu, sef torri blaengroen ei bidyn i ffwrdd.

4. Fydd y wraig ddim yn hollol lân am dri deg tri diwrnod arall. Felly yn ystod y cyfnod yma o gael ei glanhau ddylai hi ddim cyffwrdd unrhyw beth cysegredig na mynd i'r cysegr i addoli.

5. Os mai merch ydy'r babi bydd y fam yn aflan am bythefnos (fel gyda'r misglwyf). A fydd hi ddim yn hollol lân am chwe deg chwech diwrnod arall.

6. “Pan mae'r fam wedi gorffen y cyfnod o gael ei glanhau, rhaid iddi ddod at fynedfa'r Tabernacl, a chyflwyno oen sy'n flwydd oed yn offrwm i'w losgi a cholomen neu durtur yn offrwm i lanhau o bechod.

7. Bydd yr offeiriad yn ei gyflwyno i'r ARGLWYDD ac yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi hi â Duw. Dyma sydd i ddigwydd pan mae bachgen neu ferch yn cael ei eni.

8. Os ydy'r wraig ddim yn gallu fforddio oen, mae hi'n gallu cyflwyno dwy durtur neu ddwy golomen. Un yn offrwm i'w losgi a'r llall yn offrwm i lanhau o bechod. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi hi â Duw, a bydd hi'n lân.”