Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 10 beibl.net 2015 (BNET)

Nadab ag Abihw yn pechu

1. Dyma feibion Aaron, Nadab ag Abihw, yn gwneud rhywbeth wnaeth yr ARGLWYDD ddim ei orchymyn. Dyma'r ddau yn cymryd padell dân bob un, rhoi tân arnyn nhw, a llosgi arogldarth. Ond roedden nhw wedi defnyddio tân ddaeth o rywle arall o flaen yr ARGLWYDD.

2. A dyma'r ARGLWYDD yn anfon tân i'w llosgi nhw, a buon nhw farw yno o flaen yr ARGLWYDD.

3. A dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Dyma oedd yr ARGLWYDD yn ei olygu pan ddwedodd e:‘Dw i am i'r offeiriaid ddangos fy mod i'n sanctaidd,a dw i am i'r bobl weld fy ysblander i.’”Roedd Aaron yn methu dweud gair.

4. Yna dyma Moses yn anfon am Mishael ac Eltsaffan (meibion Wssiel oedd yn ewythr i Aaron). A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Ewch â dau gorff eich perthnasau allan o'r gwersyll, yn bell oddi wrth y fynedfa i'r Tabernacl.”

5. Felly dyma nhw'n llusgo'r ddau allan gerfydd eu dillad, fel roedd Moses wedi dweud.

6. A dyma Moses yn dweud wrth Aaron a'i ddau fab arall, Eleasar ac Ithamar, “Peidiwch galaru drwy adael i'ch gwallt hongian yn flêr, a drwy rwygo eich dillad. Os gwnewch chi byddwch chi'n marw, a bydd yr ARGLWYDD yn ddig gyda'r bobl i gyd. Ond bydd pawb arall o bobl Israel yn galaru am y dynion wnaeth yr ARGLWYDD eu lladd gyda'r tân.

7. Rhaid i chi beidio mynd allan o'r Tabernacl rhag i chi farw, am eich bod wedi cael eich eneinio ag olew i wasanaethu'r ARGLWYDD.” A dyma nhw'n gwneud fel roedd Moses yn dweud.

Rheolau i'r Offeiriaid

8. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron:

9. “Rhaid i ti a dy ddisgynyddion beidio yfed gwin neu ddiod feddwol cyn mynd i mewn i'r Tabernacl, rhag i chi farw. Fydd y rheol yma byth yn newid.

10. Rhaid i chi fedru gwahaniaethu rhwng beth sy'n gysegredig a beth sy'n gyffredin, a rhwng beth sy'n aflan ac yn lân.

11. A rhaid i chi ddysgu i bobl Israel y rheolau mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi iddyn nhw drwy Moses.”

12. Wedyn dyma Moses yn siarad gydag Aaron a'r ddau fab oedd ganddo ar ôl, sef Eleasar ac Ithamar: “Cymerwch yr offrwm grawn sydd ar ôl, a bwyta'r hyn sydd heb furum ynddo wrth ymyl yr allor. Mae'n gysegredig iawn.

13. Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi ei gysegru. Eich siâr chi a'ch disgynyddion ydy e. Dyna mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud.

14. Ond gyda'r frest sy'n cael ei chwifio a darn uchaf y goes ôl dde sy'n cael ei rhoi i chi, cewch chi a'ch meibion a'ch merched ei fwyta yn unrhyw le sydd wedi cael ei gysegru. Y darnau yma ydy'ch siâr chi o'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.

15. Dyma'r darnau sy'n cael eu rhoi, gyda'r brasder sydd i'w losgi, yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Dyma'ch siâr chi a'ch plant bob amser. Dyna mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud.”

16. Buodd Moses yn edrych ym mhobman am fwch gafr yr offrwm i lanhau o bechod, ond darganfyddodd ei fod wedi cael ei losgi. Roedd e wedi digio gydag Eleasar ac Ithamar (y ddau fab oedd gan Aaron ar ôl).

17. “Pam wnaethoch chi ddim bwyta'r offrwm i lanhau o bechod yn y lle sydd wedi ei gysegru? Mae'r offrwm yn gysegredig iawn, ac mae Duw wedi ei roi i chi i dalu am ddrygioni'r bobl ac i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â'r ARGLWYDD.

18. Wnaeth y gwaed ddim cael ei gymryd i'r Lle Mwyaf Sanctaidd, felly dylech fod wedi ei fwyta yn y cysegr fel y dwedais i.”

19. Ond dyma Aaron yn ateb Moses, “Meddylia. Heddiw roedd dau o'm meibion i wedi offrymu'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm sydd i'w losgi, ac eto meddylia beth sydd wedi digwydd! Fyddai'r ARGLWYDD wedi bod yn hapus petawn i wedi bwyta'r offrwm i lanhau o bechod heddiw?”

20. Ar ôl clywed esboniad Aaron, roedd Moses yn fodlon.