1. Teuluoedd llwyth Simeon gafodd yr ail ran. Roedd eu tir nhw o fewn tiriogaeth Jwda.
2. Roedd eu tir nhw yn cynnwys Beersheba, Molada,
3. Chatsar-shwal, Bala, Etsem,
4. Eltolad, Bethwl, Horma,
5. Siclag, Beth-marcaboth, Chatsar-swsa,
6. Beth-lebaoth, a Sharwchen – un deg tair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
7. Ain, Rimmon, Ether, ac Ashan – pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
8. Hefyd y pentrefi oedd o'u cwmpas nhw yr holl ffordd i Baalath-beër (sef Rama yn y Negef).Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Simeon.
9. Cafodd tir Simeon ei gymryd allan o gyfran Jwda, am fod gan Jwda ormod o dir. Felly roedd tir llwyth Simeon o fewn ffiniau Jwda.
10. Teuluoedd llwyth Sabulon gafodd y drydedd ran.Roedd ffin eu tiriogaeth nhw yn ymestyn yr holl ffordd i Sarid yn y de-ddwyrain.
11. Roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Marala, heibio Dabbesheth ac at y ceunant wrth Jocneam.
12. O Sarid roedd yn troi i gyfeiriad y dwyrain at y ffin gyda Cisloth-tabor, yna ymlaen i Daberath, ac i fyny i Jaffia.
13. Wedyn roedd yn croesi drosodd i Gath-heffer ac Eth-catsin ac ymlaen i Rimmon cyn troi i gyfeiriad Nea.
14. Wedyn roedd yn mynd rownd i'r gogledd i Channathon ac yn gorffen yn Nyffryn Ifftachél.
15. Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Catta, Nahalal, Shimron, Idala, a Bethlehem. Roedd ganddyn nhw un deg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.
16. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Sabulon, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
17. Teuluoedd llwyth Issachar gafodd y bedwaredd ran.
18. Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Jesreel, Ceswloth, Shwnem,
19. Chaffaraïm, Shion, Anacharath,
20. Rabbith, Cishon, Ebes,
21. Remeth, En-gannïm, En-hada a Beth-patsets.
22. Roedd eu ffin yn cyffwrdd Mynydd Tabor, Shachatsima a Beth-shemesh, ac yn gorffen wrth yr Afon Iorddonen. Un deg chwech o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.
23. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Issachar, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
24. Teuluoedd llwyth Asher gafodd y bumed ran.
25. Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Helcath, Chali, Beten, Achsaff,
26. Alammelech, Amad, a Mishal.Roedd eu ffin nhw yn mynd o Carmel yn y gorllewin i Shichor-libnath.
27. Wedyn roedd yn troi i'r dwyrain i gyfeiriad Beth-dagon, at ffin llwyth Sabulon a Dyffryn Ifftachél i'r gogledd, yna i Beth-emec a Neiel, ac yna ymlaen i Cabwl yn y gogledd.
28. Yna i Ebron, Rechob, Hammon, a Cana, yr holl ffordd i Sidon Fawr.
29-30. Wedyn roedd yn troi i gyfeiriad Rama a tref gaerog Tyrus, cyn troi i Chosa a mynd at y môr. Roedd ganddyn nhw ddau ddeg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas, gan gynnwys Mahalab, Achsib, Acco, Affec, a Rechob.
31. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Asher, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
32. Teuluoedd llwyth Nafftali gafodd y chweched ran.
33. Roedd y ffin yn dechrau wrth Cheleff a'r dderwen yn Saänannim, yna mynd i Adami-necef, Iabneël, ymlaen i Lacwm, cyn gorffen wrth Afon Iorddonen.
34. Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin at Asnoth-tabor ac ymlaen i Chwcoc. Roedd yn ffinio gyda llwyth Sabulon i'r de, a llwyth Asher i'r gorllewin, a Jwda wrth Afon Iorddonen yn y dwyrain.
35. Roedd y trefi caerog amddiffynnol yn cynnwys Sidim, Ser, Chamath, Raccath, Cinnereth,
36. Adama, Rama, Chatsor,
37. Cedesh, Edrei, En-chatsor,
38. Iron, Migdal-el, Chorem, Beth-anath, a Beth-shemesh. Roedd ganddyn nhw un deg naw o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.
39. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Nafftali, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
40. Teuluoedd llwyth Dan gafodd y seithfed ran.
41. Roedd eu tir nhw'n cynnwys Sora, Eshtaol, Ir-shemesh,
42. Shaalabin, Aialon, Ithla,
43. Elon, Timna, Ecron,
44. Eltece, Gibbethon, Baalath,
45. Jehwd, Bene-berac, Gath-rimmon,
46. Me-iarcon, a Raccon, gan gynnwys y tir o flaen Jopa.
47. (Ond collodd llwyth Dan y tir gafodd ei roi iddyn nhw, felly dyma nhw'n mynd i'r gogledd ac yn ymosod ar Laish. Dyma nhw'n cymryd y dref drosodd ac yn lladd pawb oedd yn byw yno, a newid enw'r dref i Dan, ar ôl eu hynafiad.)
48. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Dan, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.
49. Ar ôl rhannu'r tir i gyd rhwng y llwythau, dyma bobl Israel yn rhoi darn o dir i Josua fab Nwn.
50. Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddai e'n cael pa dref bynnag oedd e eisiau. Dewisodd Timnath-serach ym mryniau Effraim. Ailadeiladodd y dref, a byw yno.
51. Dyma sut cafodd y tir ei rannu gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel. Cafodd y tir ei rannu drwy fwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw yn Seilo. A dyna sut gwnaethon nhw orffen rhannu'r tir.