Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 12 beibl.net 2015 (BNET)

Crynodeb o hanes Concro'r wlad

1. Dyma'r brenhinoedd wnaeth pobl Israel eu trechu i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen, a'r tiroedd wnaethon nhw eu meddiannu – o Geunant Arnon i Fynydd Hermon, sef yr holl dir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen:

2. Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon ac yn teyrnasu o Aroer, ger Ceunant Arnon. Roedd yn teyrnasu o ganol Ceunant Arnon i Ddyffryn Jabboc, sef y ffin gyda tiriogaeth pobl Ammon – yn cynnwys hanner Gilead.

3. Roedd ei diriogaeth yn cynnwys y tir sydd i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, yr holl ffordd o Lyn Galilea i'r Môr Marw. Yna o Beth-ieshimoth yn y dwyrain i lawr i'r de cyn belled â llethrau Mynydd Pisga.

4. Og, brenin Bashan – un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl. Roedd Og yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei,

5. a'i diriogaeth yn ymestyn o Fynydd Hermon i Salca yn y gogledd, Bashan yn y dwyrain, ac i'r gorllewin at y ffin gyda teyrnasoedd Geshwr a Maacha, a hanner arall Gilead at y ffin gyda teyrnas Sihon, oedd yn frenin yn Cheshbon.

6. Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, a phobl Israel wedi eu trechu nhw a rhannu eu tiroedd nhw rhwng llwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse.

7. A dyma'r brenhinoedd wnaeth Josua a pobl Israel eu trechu i'r gorllewin o'r Afon Iorddonen – o Baal-gad yn Nyffryn Libanus yn y gogledd i lawr i Fynydd Halac ac at wlad Edom yn y de. (Rhannodd Josua y tiroedd yma i gyd rhwng llwythau Israel.

8. Roedd yn cynnwys y bryniau a'r iseldir, Dyffryn Iorddonen, y llethrau, anialwch Jwda a'r Negef, sef tiroedd yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid):

9. Brenin Jericho;brenin Ai, ger Bethel;

10. brenin Jerwsalem;brenin Hebron;

11. brenin Iarmwth;brenin Lachish;

12. brenin Eglon;brenin Geser;

13. brenin Debir;brenin Geder;

14. brenin Horma;brenin Arad;

15. brenin Libna;brenin Adwlam;

16. brenin Macceda;brenin Bethel;

17. brenin TappƔach;brenin Cheffer;

18. brenin Affec;brenin Lasaron;

19. brenin Madon;brenin Chatsor;

20. brenin Shimron-meron;brenin Achsaff;

21. brenin Taanach;brenin Megido;

22. brenin Cedesh;brenin Jocneam, ger Mynydd Carmel;

23. brenin Dor, ar yr arfordir;brenin Goïm, ger Gilgal;

24. a brenin Tirsa.Tri deg un o frenhinoedd i gyd.