Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 13 beibl.net 2015 (BNET)

Y tiroedd oedd heb eu concro

1. Pan oedd Josua wedi mynd yn hen iawn, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Ti'n mynd yn hen, ac mae yna lot fawr o dir sydd eto heb ei goncro.

2. Dyma'r tir sydd ar ôl:Tir y Philistiaid a'r Geshwriaid,

3. o Afon Sihor ar y ffin gyda'r Aifft i fyny yr holl ffordd i dir Ecron yn y gogledd (y cwbl yn dir sy'n perthyn i'r Canaaneaid.) Mae'n cynnwys tiriogaeth arweinwyr y Philistiaid yn Gasa, Ashdod, Ashcelon, Gath ac Ecron – y pump ohonyn nhw. Tir yr Afiaid hefyd,

4. sydd i lawr yn y de.Yna i'r gogledd, tir y Canaaneaid o dref Ara yn Sidon i Affec, sydd ar y ffin gyda'r Amoriaid.

5. Tir y Gebaliaid a Libanus i gyd. Ac yna yn y dwyrain, o Baal-gad wrth droed Mynydd Hermon i Fwlch Chamath.

6. A dw i am yrru allan o flaen pobl Israel bawb sy'n byw yn mynydd-dir Libanus yr holl ffordd i Misreffoth-maim, sef tir y Sidoniaid.“Mae'r tir yma i gyd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel, fel dw i wedi gorchymyn i ti. Bydd gan bob llwyth ei diriogaeth ei hun.

7. Mae i'w rannu rhwng y naw llwyth a hanner sydd ddim eto wedi cael eu tiriogaeth.”

Rhannu'r tiroedd i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen

8. Roedd hanner llwyth Manasse, a llwythau Reuben a Gad wedi derbyn tir i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen. Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi rhoi y tir hwnnw iddyn nhw.

9. Roedd eu tir yn ymestyn o Aroer, yn Nyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba yr holl ffordd i Dibon.

10. Hefyd y trefi oedd yn arfer perthyn i Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, at y ffin gydag Ammon.

11. Roedd yn cynnwys Gilead, tiroedd Geshwr a Maacha, Mynydd Hermon a tir Bashan i Salca.

12. Hefyd Tiriogaeth Og, brenin Bashan, oedd yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei (Roedd Og yn un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl). Roedd Moses wedi eu concro nhw, a chymryd eu tiroedd.

13. Ond wnaeth Israel ddim gyrru allan bobl Geshwr a Maacha – maen nhw'n dal i fyw gyda phobl Israel hyd heddiw.

14. Wnaeth Moses ddim rhoi tir i lwyth Lefi ychwaith, am fod yr ARGLWYDD wedi addo rhoi iddyn nhw yr offrymau oedd yn cael eu cyflwyno i'w llosgi i'r ARGLWYDD, Duw Israel.

Y tir gafodd llwyth Reuben

15. Dyma'r tir roedd Moses wedi ei roi i deuluoedd llwyth Reuben:

16. Roedd eu tiriogaeth nhw yn ymestyn o Aroer, yn Nyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba,

17. Cheshbon, a'r trefi o'i chwmpas – gan gynnwys Dibon, Bamoth-baal, Beth-baal-meon,

18. Iahats, Cedemoth, Meffaäth,

19. Ciriathaim, Sibma, Sereth-shachar ar y bryn yn y dyffryn,

20. Beth-peor, llethrau Mynydd Pisga, a Beth-ieshimoth.

21. Roedd yn cynnwys trefi'r gwastadedd i gyd, a holl diriogaeth Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu o Cheshbon. Roedd Moses wedi ei goncro fe, ac arweinwyr y Midianiaid oedd dan ei reolaeth, ac yn byw yn ei diriogaeth – Efi, Recem, Swr, Hur, a Reba.

22. Roedd pobl Israel hefyd wedi lladd y dewin, Balaam fab Beor, ac eraill.

23. Ffin orllewinol tiriogaeth Reuben oedd yr Afon Iorddonen. Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Reuben, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

Y tir gafodd llwyth Gad

24. Dyma'r tir roedd Moses wedi ei roi i deuluoedd llwyth Gad:

25. Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Iaser, trefi Gilead i gyd, a hanner tiriogaeth pobl Ammon, yr holl ffordd i Aroer, ger Rabba.

26. Roedd yn ymestyn o Cheshbon yn y de i Ramath-mitspe a Betonîm yn y gogledd, ac o Machanaîm i ardal Debir.

27. Roedd yn cynnwys y tir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, gan gynnwys trefi Beth-haram, Beth-nimra, Swccoth, a Saffon, a gweddill tiriogaeth Sihon, oedd yn teyrnasu o Cheshbon – sef y tir i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen yr holl ffordd at Lyn Galilea,

28. Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Gad, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

Y tir gafodd hanner llwyth Manasse

29. Dyma'r tir roedd Moses wedi ei roi i deuluoedd hanner llwyth Manasse:

30. Roedd eu tiriogaeth nhw yn ymestyn tua'r gogledd o Machanaîm, ac yn cynnwys teyrnas Og, brenin Bashan, i gyd. Roedd yn cynnwys y chwe deg o drefi yn Hafoth-jair yn Bashan,

31. hanner Gilead, a trefi Ashtaroth ac Edrei (sef y trefi lle roedd Og, brenin Bashan, wedi bod yn teyrnasu). Cafodd y tir yma i gyd ei roi i ddisgynyddion Machir fab Manasse, sef teuluoedd hanner llwyth Manasse.

32. Dyna sut wnaeth Moses rannu'r tir pan oedd ar wastatir Moab i'r dwyrain o Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.

33. Wnaeth Moses ddim rhoi tir i lwyth Lefi, am fod yr ARGLWYDD wedi addo rhoi iddyn nhw yr offrymau oedd yn cael eu cyflwyno i'r ARGLWYDD, Duw Israel.