Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 21 beibl.net 2015 (BNET)

Pobl Israel yn rhoi trefi i'r Lefiaid

1. Dyma arweinwyr llwyth Lefi yn mynd at Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel,

2. yn Seilo yn Canaan. A dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses roi trefi i ni fyw ynddyn nhw, gyda tir pori o'u cwmpas nhw i'n hanifeiliaid.”

3. Felly, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, dyma bobl Israel yn rhoi trefi gyda tir pori o'u cwmpas nhw, i lwyth Lefi:

4. Y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath gafodd y rhai cyntaf. Cafodd y Lefiaid oedd yn ddisgynyddion Aaron yr offeiriad un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Jwda, Simeon a Benjamin.

5. A dyma'r gweddill o ddisgynyddion Cohath yn cael deg tref o diriogaeth llwythau Effraim, Dan a hanner llwyth Manasse.

6. Cafodd disgynyddion Gershon un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Issachar, Asher, Nafftali, a hanner arall llwyth Manasse yn Bashan.

7. Cafodd y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Merari un deg dwy o drefi o diriogaeth Reuben, Gad a Sabulon.

8. Dyma'r trefi, gyda'u tir pori, wnaeth pobl Israel eu rhoi i lwyth Lefi, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses:

9. O diriogaeth llwythau Jwda a Simeon,

10. y trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd Cohath, oedd yn ddisgynyddion i Aaron yr offeiriad – nhw gafodd y rhai cyntaf:

11. Ciriath-arba, sef Hebron, ym mryniau Jwda. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.)

12. Ond roedd y tir agored a'r pentrefi o'i chwmpas eisoes wedi cael eu rhoi i Caleb fab Jeffwnne.

13. Felly i ddisgynyddion Aaron yr offeiriad dyma nhw'n rhoi Hebron (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Libna,

14. Iattir, Eshtemoa,

15. Cholon, Debir,

16. Ain, Iwtta, a Beth-shemesh, a'r tir pori o gwmpas pob un. Naw o drefi wedi eu cymryd o diriogaeth y ddau lwyth yma.

17. O diriogaeth llwyth Benjamin dyma nhw'n rhoi Gibeon, Geba,

18. Anathoth, ac Almon, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.

19. Felly cafodd un deg tair o drefi eu rhoi i'r offeiriad, disgynyddion Aaron.

20. Cafodd gweddill y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath (o lwyth Lefi) y trefi canlynol:O diriogaeth llwyth Effraim dyma nhw'n rhoi

21. Sichem, ym mryniau Effraim (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Geser,

22. Cibtsaim, a Beth-choron, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.

23. O diriogaeth llwyth Dan dyma nhw'n rhoi Eltece, Gibbethon,

24. Aialon, a Gath-rimmon, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.

25. O diriogaeth hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Taanach a Jibleam, a'r tir pori o'u cwmpas nhw. Dwy dref i gyd.

26. Felly cafodd y deg tref yma eu rhoi i weddill y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath.

27. Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd disgynyddion Gershon, o lwyth Lefi:O hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Golan yn Bashan (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall) a Beeshtera, a'r tir pori o'u cwmpas nhw. Dwy dref i gyd.

28. O diriogaeth llwyth Issachar: Cishon, Daberath,

29. Iarmwth, ac En-gannïm, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.

30. O diriogaeth llwyth Asher: Mishal, Abdon,

31. Helcath, a Rechob, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.

32. O diriogaeth llwyth Nafftali: Cedesh yn Galilea (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Chamath-dor, a Cartan, a'r tir pori o gwmpas pob un. Tair o drefi i gyd.

33. Felly cafodd yr un deg tair tref yma eu rhoi i deuluoedd disgynyddion Gershon.

34. Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd gweddill llwyth Lefi, sef disgynyddion Merari:O diriogaeth llwyth Sabulon: Jocneam, Carta,

35. Dimna, a Nahalal, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.

36. O diriogaeth llwyth Reuben: Betser, Iahats,

37. Cedemoth, a Meffaäth, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.

38. O diriogaeth llwyth Gad: Ramoth yn Gilead (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Machanaîm,

39. Cheshbon, a Iaser, a'r tir pori o gwmpas pob un. Pedair o drefi i gyd.

40. Felly cafodd yr un deg dwy tref yma eu rhoi i weddill llwyth Lefi, sef disgynyddion Merari.

41. Cafodd pedwar deg wyth o drefi i gyd, gyda'u tir pori, eu rhoi i lwyth Lefi, o fewn tiroedd pobl Israel.

42. Roedd tir pori o gwmpas pob un o'r trefi.

Israel yn setlo yn y tir

43. Felly dyma'r ARGLWYDD yn rhoi i bobl Israel yr holl dir roedd wedi ei addo i'w hynafiaid nhw. Dyma nhw'n ei goncro ac yn setlo i lawr i fyw ynddo.

44. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi heddwch iddyn nhw fel roedd e wedi addo ar lw i'w hynafiaid. Roedd wedi eu helpu i goncro eu gelynion i gyd.

45. Roedd pob un addewid wnaeth yr ARGLWYDD i bobl Israel wedi dod yn wir.