Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 15 beibl.net 2015 (BNET)

Y tir gafodd llwyth Jwda

1. Roedd y tir gafodd ei roi i lwyth Jwda yn dilyn y ffin gydag Edom i Anialwch Sin yn y Negef i lawr yn y de.

2. Roedd y ffin yn y de yn dechrau o ben isaf y Môr Marw,

3. heibio i'r de o Fwlch y Sgorpion, ar draws i Sin ac yna i'r ochr isaf i Cadesh-barnea. Yna roedd yn croesi i Hesron, ac yn mynd i fyny i Adar, cyn troi i gyfeiriad Carca.

4. Wedyn roedd yn croesi i Atsmon ac yn dilyn Wadi'r Aifft yr holl ffordd i Fôr y Canoldir. Dyna oedd y ffin yn y de.

5. Y Môr Marw at aber Afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain.Wedyn roedd y ffin ogleddol yn ymestyn o aber yr Iorddonen ar ben uchaf y Môr Marw,

6. i fyny i Beth-hogla, yna ar draws o du uchaf Beth-araba at Garreg Bohan (mab Reuben).

7. Ymlaen wedyn i Debir o Ddyffryn Achor, cyn troi i'r gogledd i gyfeiriad Gilgal (sydd gyferbyn â Bwlch Adwmim, i'r de o'r ceunant.) Yna heibio Dyfroedd En-shemesh cyn belled ag En-rogel.

8. Wedyn roedd y ffin yn dilyn Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o dre'r Jebwsiaid (sef Jerwsalem). Yna i'r gorllewin, ac i gopa'r mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom ac i'r gogledd o Ddyffryn Reffaïm.

9. O dop y mynydd roedd yn mynd at ffynnon dyfroedd Nefftoach, at drefi Mynydd Effron, ac yna'n troi i gyfeiriad Baäla (sef Ciriath-iearim).

10. Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin o Baäla i gyfeiriad Mynydd Seir, ac yn croesi i dref Cesalon ar lethr gogleddol Mynydd Iearim, cyn mynd i lawr i Beth-shemesh a chroesi i Timna.

11. Yna i gyfeiriad y gogledd at lethrau Ecron, ymlaen i Shicron, croesi i Fynydd Baäla, ac i Iabneël a Môr y Canoldir.

12. Môr y Canoldir ei hun oedd y ffin orllewinol.Dyna oedd ffiniau teuluoedd llwyth Jwda.

Caleb yn concro Hebron a Debir

13. Cafodd tref Ciriath-arba (sef Hebron) ei rhoi i Caleb fab Jeffwnne, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.)

14. Dyma Caleb yn gyrru allan dri cawr oedd yn ddisgynyddion i Anac, sef Sheshai, Achiman a Talmai.

15. Yna dyma fe'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir. (Ciriath-seffer oedd yr hen enw ar Debir.)

16. Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.”

17. Othniel, mab Cenas (brawd Caleb) wnaeth goncro'r dref, a dyma Caleb yn rhoi ei ferch, Achsa, yn wraig iddo.

18. Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, dyma ei thad Caleb yn gofyn iddi, “Beth sy'n bod?”

19. A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi.

Trefi Jwda

20. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Jwda:

21. Y trefi i lawr yn y de ar y ffin gydag Edom: Cabseël, Eder, Iagwr,

22. Cina, Dimona, Adada,

23. Cedesh, Chatsor, Ithnan,

24. Siff, Telem, Bealoth,

25. Chatsor-chadatta, Cerioth-chetsron (sef Chatsor),

26. Amam, Shema, Molada,

27. Chatsar-gada, Cheshmon, Beth-pelet,

28. Chatsar-shwal, Beersheba, Bisiothia,

29. Baäla, Ïim, Etsem,

30. Eltolad, Cesil, Horma,

31. Siclag, Madmanna, Sansanna,

32. Lebaoth, Shilchim, Ain a Rimmon. Dau ddeg naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

33. Yna'r trefi ar yr iseldir: Eshtaol, Sora, Ashna,

34. Sanoach, En-gannïm, Tappŵach, Enam,

35. Iarmwth, Adwlam, Socho, Aseca,

36. Shaaraim, Adithaïm, a Gedera (neu Gederothaim) – un deg pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

37. Hefyd trefi Senan, Chadasha, Migdal-gad,

38. Dilean, Mitspe, Iocteël,

39. Lachish, Botscath, Eglon,

40. Cabbon, Lachmas, Citlish,

41. Gederoth, Beth-dagon, Naäma, a Macceda – un deg chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

42. Trefi Libna, Ether, Ashan,

43. Ifftach, Ashna, Netsib,

44. Ceila, Achsib, a Maresha – naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

45. Yna Ecron a'r trefi a'r pentrefi o'i chwmpas hi,

46. ac i gyfeiriad y gorllewin, y trefi oedd yn ymyl Ashdod, a'r pentrefi o'u cwmpas.

47. Ashdod ei hun, a Gasa a'r trefi a'r pentrefi o'u cwmpas – yr holl ffordd at Wadi'r Aifft ac arfordir Môr y Canoldir.

48. Wedyn y trefi yn y bryniau: Shamîr, Iattir, Socho,

49. Danna, Ciriath-sanna (sef Debir),

50. Anab, Eshtemoa, Anim,

51. Gosen, Holon, a Gilo – un deg un o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

52. Hefyd Arab, Dwma, Eshan,

53. Janwm, Beth-tappwach, Affeca,

54. Chwmta, Ciriath-arba (sef Hebron), a Sior – naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

55. Yna Maon, Carmel, Siff, Iwtta,

56. Jesreel, Iocdeam, Sanoach,

57. Cain, Gibea, a Timna – deg o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

58. Chalchwl, Beth-tswr, Gedor,

59. Maarath, Beth-anoth, ac Eltecon – chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

60. Ciriath-baal (sef Ciriath-iearim) a Rabba – dwy dref, a'r pentrefi o'u cwmpas.

61. Yna'r trefi yn yr anialwch – Beth-araba, Midin, Sechacha,

62. Nibshan, Tre'r Halen, ac En-gedi – chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

63. Ond wnaeth dynion Jwda ddim llwyddo i goncro'r Jebwsiaid oedd yn byw yn Jerwsalem. Felly mae'r Jebwsiaid yn dal i fyw gyda phobl Jwda hyd heddiw.