Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 14 beibl.net 2015 (BNET)

Samson yn priodi

1. Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna. Yno roedd merch ifanc wedi dal ei lygad, un o ferched y Philistiaid.

2. Pan aeth yn ôl adre dyma fe'n dweud wrth ei dad a'i fam, “Dw i wedi gweld merch ifanc yn Timna – un o ferched y Philistiaid. Ewch i'w nôl hi i fod yn wraig i mi.”

3. Ond dyma ei rieni'n ateb, “Mae'n rhaid bod yna ferch ifanc rywle – un o dy berthnasau; un o dy bobl dy hun. Mae'r Philistiaid yn baganiaid. Pam ddylet ti fynd atyn nhw i gael gwraig?”“Ewch i'w nôl hi. Hi dw i eisiau. Mae hi'n bishyn.”

4. (Doedd ei dad a'i fam ddim yn sylweddoli mai'r ARGLWYDD oedd tu ôl i hyn i gyd, a'i fod yn creu cyfle i achosi helynt i'r Philistiaid. Y Philistiaid oedd yn rheoli Israel ar y pryd).

5. Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna gyda'i rieni. Pan oedd wrth ymyl gwinllannoedd Timna dyma lew ifanc yn rhuthro ato.

6. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus a dyma fe'n rhwygo'r llew a'i ladd gyda dim ond nerth braich, fel petai'n fyn gafr bach ifanc. (Ond wnaeth e ddim dweud wrth ei rieni beth roedd wedi ei wneud).

7. Yna aeth Samson yn ei flaen i Timna a siarad â'r ferch ifanc. Roedd e wir yn ei ffansïo hi.

8. Beth amser ar ôl hynny aeth Samson i Timna i'w phriodi hi. Ar ei ffordd aeth i weld beth oedd ar ôl o'r llew oedd wedi ymosod arno. Cafodd fod haid o wenyn yn byw yn sgerbwd yr anifail a bod mêl ynddo.

9. Dyma fe'n crafu peth o'r mêl gyda'i ddwylo a'i fwyta wrth gerdded. Aeth yn ôl at ei rieni a rhoi peth o'r mêl iddyn nhw i'w fwyta. (Ond wnaeth e ddim dweud wrthyn nhw ei fod wedi crafu'r mêl allan o sgerbwd y llew).

10. Ar ôl hyn dyma ei dad yn mynd gydag e i Timna i weld y ferch. A dyma Samson yn trefnu parti, am mai dyna oedd dynion ifanc oedd am briodi yn arfer ei wneud bryd hynny.

11. Pan welodd y Philistiaid Samson dyma nhw'n rhoi tri deg o ffrindiau i gadw cwmni iddo yn y parti.

12. A dyma Samson yn dweud wrthyn nhw, “Gadewch i mi osod pos i chi. Os rhowch chi'r ateb i mi cyn diwedd y parti mewn wythnos, gwna i roi mantell newydd, a set o ddillad newydd i'r tri deg ohonoch chi.

13. Ond os allwch chi ddim datrys y pos, bydd rhaid i bob un ohonoch chi roi mantell a set o ddillad newydd i mi.”Felly dyma nhw'n dweud wrtho, “Iawn, gad i ni glywed beth ydy dy bos di.”

14. A dyma ddwedodd e:“Daeth bwyd o'r bwytäwr;rhywbeth melys o'r un cryf.”Aeth tri diwrnod heibio a doedden nhw ddim yn gallu meddwl am yr ateb.

15. Y diwrnod wedyn dyma nhw'n mynd at wraig Samson a'i bygwth: “Tricia dy ŵr i ddweud beth ydy'r ateb i'r pos, neu byddwn ni'n dy losgi di a teulu dy dad. Wnest ti'n gwahodd ni yma i'n gwneud ni'n fethdalwyr?”

16. Felly dyma wraig Samson yn mynd ato a dechrau crïo ar ei ysgwydd. “Ti'n fy nghasáu i. Dwyt ti ddim yn fy ngharu i. Ti wedi rhoi pos i rai o'r bechgyn ond dwyt ti ddim wedi dweud wrtho i beth ydy'r ateb.”“Ond dw i ddim hyd yn oed wedi dweud wrth dad a mam. Wyt ti wir yn disgwyl i mi ddweud wrthot ti?”

17. Buodd hi'n crïo ar ei ysgwydd nes oedd y parti bron ar ben. Yna ar y seithfed diwrnod dyma Samson yn dweud yr ateb wrthi am ei bod hi wedi swnian gymaint. A dyma hi'n mynd i ddweud wrth y dynion ifanc.

18. Cyn iddi fachlud y noson honno dyma ddynion y dref yn mynd at Samson a dweud, “Beth sy'n fwy melys na mêl? A beth sy'n gryfach na llew?”A dyma Samson yn dweud, “Fyddech chi ddim wedi datrys y pos heb gymryd mantais o'm gwraig i!”

19. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus. Aeth i Ashcelon a lladd tri deg o ddynion. Cymerodd eu dillad a'u rhoi i'r dynion oedd wedi ateb y pos. Roedd wedi gwylltio'n lân ac aeth adre at ei rieni.

20. Dyma'i wraig yn cael ei rhoi i'r un oedd wedi bod yn was priodas iddo.