Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 10 beibl.net 2015 (BNET)

Tola

1. Ar ôl i Abimelech farw dyma Tola, mab Pwa ac ŵyr Dodo, yn codi i achub Israel. Roedd yn perthyn i lwyth Issachar ac yn byw yn Shamîr ym mryniau Effraim.

2. Bu'n arwain Israel am ddau ddeg tair o flynyddoedd. Pan fu farw cafodd ei gladdu yn Shamîr.

Jair

3. Ar ôl Tola dyn o'r enw Jair o Gilead wnaeth arwain Israel am ddau ddeg dwy o flynyddoedd.

4. Roedd gan Jair dri deg o feibion ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun, ac roedd pob un yn rheoli tref yn Gilead. Mae'r trefi yma yn Gilead yn dal i gael eu galw yn Hafoth-jair hyd heddiw.

5. Pan fuodd Jair farw cafodd ei gladdu yn Camon.

Pobl Israel yn troi cefn ar Dduw eto

6. Dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n addoli delwau o Baal a'r dduwies Ashtart, a duwiau Syria, Sidon, Moab, yr Ammoniaid a'r Philistiaid. Roedden nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD a stopio'i addoli e!

7. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. Dyma fe'n gadael i'r Philistiaid a'r Ammoniaid eu rheoli nhw.

8. Roedden nhw'n curo a cham-drin pob Israel yn ddidrugaredd. Roedd pobl Israel oedd yn byw ar dir yr Amoriaid i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen (sef Gilead), wedi dioddef am un deg wyth o flynyddoedd.

9. Yna dyma'r Ammoniaid yn croesi'r Iorddonen i ymladd gyda llwythau Jwda, Benjamin ac Effraim. Roedd hi'n argyfwng go iawn ar Israel.

10. A dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD a dweud, “Dŷn ni wedi pechu yn dy erbyn di! Dŷn ni wedi troi cefn ar ein Duw ac addoli delwau Baal.”

11. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Yr Eifftiaid, yr Amoriaid, yr Ammoniaid, y Philistiaid,

12. y Sidoniaid, yr Amaleciaid, y Midianiaid … mae pob un ohonyn nhw wedi eich cam-drin chi. A pan oeddech chi'n gweiddi arna i am help, roeddwn i'n eich achub chi.

13. Ond dw i ddim yn mynd i'ch achub chi eto. Dych chi wedi troi cefn arna i a mynd ar ôl duwiau eraill.

14. Ewch i weiddi ar eich duwiau eich hunain – cân nhw eich helpu chi!”

15. Ond dyma bobl Israel yn dweud, “Dŷn ni wedi pechu. Ti'n iawn i'n cosbi ni. Ond plîs achub ni heddiw!”

16. Yna dyma pobl Israel yn cael gwared â'r duwiau eraill oedd ganddyn nhw a dechrau addoli'r ARGLWYDD eto. Yn y diwedd roedd yr ARGLWYDD wedi blino gweld pobl Israel yn dioddef.

17. Dyma byddin yr Ammoniaid yn paratoi i fynd i ryfel ac yn gwersylla yn Gilead. A dyma byddin Israel yn gwersylla yn Mitspa.

18. Dyma arweinwyr Gilead yn gofyn, “Pwy sy'n barod i arwain yr ymosodiad yn erbyn byddin yr Ammoniaid? Bydd y person hwnnw'n cael ei wneud yn llywodraethwr ar Gilead!”