Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 12 beibl.net 2015 (BNET)

Llwyth Effraim yn ymladd byddin Jefftha

1. Dyma ddynion Effraim yn galw byddin at ei gilydd ac yn croesi dros yr Afon Iorddonen i Saffon. Dyma nhw'n gofyn i Jefftha, “Pam wnest ti fynd i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid heb ofyn i ni fynd gyda ti? Dŷn ni'n mynd i losgi dy dŷ di i lawr a tithau tu mewn iddo!”

2. Meddai Jefftha, “Pan oedden ni yng nghanol dadl ffyrnig gyda'r Ammoniaid, dyma fi'n galw arnoch chi ddod i helpu, ond ddaethoch chi ddim.

3. Pan wnes i sylweddoli nad oeddech chi'n dod dyma fi'n mentro mynd i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid hebddoch chi, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i ni. Does gynnoch chi ddim rheswm i ymladd yn fy erbyn i.”

4. Yna dyma Jefftha yn casglu byddin o ddynion Gilead at ei gilydd a mynd i ymladd yn erbyn dynion Effraim. Roedd dynion Effraim wedi sarhau pobl Gilead drwy ddweud, “Dydy pobl Gilead yn ddim byd ond cachgwn yn cuddio ar dir Effraim a Manasse!”

5. Dyma ddynion Gilead yn dal y rhydau lle roedd pobl yn croesi'r afon Iorddonen, i rwystro dynion Effraim rhag dianc. Pan oedd rhywun o Effraim yn dod ac yn gofyn am gael croesi byddai dynion Gilead yn gofyn, “Wyt ti'n perthyn i lwyth Effraim?” Petai'n ateb, “Na,”

6. bydden nhw'n gofyn iddo wedyn ddweud y gair “Shiboleth!” Ond “Siboleth!” oedd dynion Effraim yn ei ddweud (roedden nhw'n methu dweud y gair yn iawn). Wedyn byddai dynion Gilead yn eu dal nhw ac yn eu lladd nhw yn y fan a'r lle. Cafodd pedwar deg dau o filoedd o ddynion Effraim eu lladd y diwrnod hwnnw.

7. Dyma Jefftha yn arwain Israel am chwe mlynedd. Pan fu farw cafodd ei gladdu yn ei dref ei hun yn Gilead.

Ibsan

8. Ar ôl Jefftha, dyma Ibsan o Bethlehem yn arwain Israel.

9. Roedd ganddo dri deg mab a thri deg merch. Dyma fe'n rhoi ei ferched yn wragedd i ddynion o'r tu allan i'w glan, a dyma fe'n trefnu i ferched o'r tu allan briodi ei feibion.Buodd Ibsan yn arwain Israel am saith mlynedd.

10. Pan fuodd e farw cafodd ei gladdu yn Bethlehem.

Elon

11. Yr arweinydd nesaf oedd Elon o lwyth Sabulon. Bu'n arwain pobl Israel am ddeg mlynedd.

12. Pan fuodd e farw cafodd ei gladdu yn Aialon ar dir llwyth Sabulon.

Abdon

13. Abdon fab Hilel o Pirathon oedd arweinydd nesaf Israel.

14. Roedd ganddo bedwar deg o feibion a tri deg o wyrion – ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun. Bu Abdon yn arwain pobl Israel am wyth mlynedd.

15. Pan fu farw, cafodd ei gladdu yn Pirathon, sydd ar dir Effraim, yn y bryniau lle roedd yr Amaleciaid yn arfer byw.