Ond dyma ei rieni'n ateb, “Mae'n rhaid bod yna ferch ifanc rywle – un o dy berthnasau; un o dy bobl dy hun. Mae'r Philistiaid yn baganiaid. Pam ddylet ti fynd atyn nhw i gael gwraig?”“Ewch i'w nôl hi. Hi dw i eisiau. Mae hi'n bishyn.”