1. Daeth Heseceia yn frenin pan oedd yn ddau ddeg pum mlwydd oed, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Abeia, merch Sechareia.
2. Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD.
3. Yn syth ar ôl iddo ddod yn frenin, dyma Heseceia'n agor drysau teml yr ARGLWYDD a'u trwsio.
4. Dyma fe'n casglu'r offeiriad a'r Lefiaid at ei gilydd yn y sgwâr ar ochr ddwyreiniol y deml,
5. a'u hannerch, “Chi Lefiaid, gwrandwch arna i. Ewch trwy'r ddefod o buro eich hunan cyn mynd ati i gysegru teml yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid. Taflwch bopeth sy'n aflan allan o'r Lle Sanctaidd.
6. Mae'n hynafiaid wedi bod yn anffyddlon a gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD. Roedden nhw wedi troi cefn arno fe a'i deml.
7. Dyma nhw'n cau drysau'r cyntedd a diffodd y lampau. Doedden nhw ddim yn llosgi arogldarth na chyflwyno aberthau yn y lle yma gafodd ei gysegru i Dduw Israel.
8. Dyna pam roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda Jwda a Jerwsalem. Mae'n gwbl amlwg fod beth sydd wedi digwydd yn ofnadwy; mae'n achos dychryn a rhyfeddod i bobl.
9. Dyna pam cafodd dynion eu lladd yn y rhyfel, ac wedyn eu gwragedd a'u plant yn cael eu cymryd yn gaethion.
10. “Nawr, dw i eisiau gwneud ymrwymiad i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Falle wedyn y bydd e'n stopio bod mor ddig gyda ni.
11. Felly, ffrindiau, peidiwch bod yn esgeulus. Mae'r ARGLWYDD wedi eich dewis chi i'w wasanaethu ac i losgi arogldarth iddo.”
12. A dyma'r Lefiaid yma yn codi i wneud beth roedd y brenin yn ei orchymyn:Disgynyddion Cohath: Machat fab Amasai a Joel fab AsareiaDisgynyddion Merari: Cish fab Afdi ac Asareia fab Jehalel-elDisgynyddion Gershon: Ioach fab Simma ac Eden fab Ioach
13. Disgynyddion Elitsaffan: Shimri a JeielDisgynyddion Asaff: Sechareia a Mataneia
14. Disgynyddion Heman: Iechiel a ShimeiDisgynyddion Iedwthwn: Shemaia ac Wssiel.
15. Yna dyma nhw'n casglu gweddill y Lefiaid at ei gilydd a mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain. A wedyn mynd ati i gysegru teml yr ARGLWYDD, fel roedd y brenin wedi dweud. Roedden nhw'n gwneud popeth yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
16. Aeth yr offeiriaid i mewn i'r deml i'w phuro. A dyma nhw'n dod â phopeth oedd yn aflan allan i'r iard, cyn i'r Lefiaid fynd a'r cwbl allan i ddyffryn Cidron.
17. Roedd y gwaith glanhau wedi dechrau ar ddiwrnod cynta'r mis cyntaf. Mewn wythnos roedden nhw wedi cyrraedd cyntedd teml yr ARGLWYDD. Wedyn am wythnos arall buon nhw'n cysegru'r deml, a cafodd y gwaith ei orffen ar ddiwrnod un deg chwech o'r mis.
18. Yna dyma nhw'n mynd at y Brenin Heseceia a dweud, “Dŷn ni wedi cysegru teml yr ARGLWYDD i gyd, yr allor i losgi aberthau a'i hoffer i gyd, a'r bwrdd mae'r bara i'w osod yn bentwr arno gyda'i holl lestri.
19. Dŷn ni hefyd wedi cysegru'r holl lestri wnaeth y Brenin Ahas eu taflu allan pan oedd yn anffyddlon i Dduw. Maen nhw yn ôl o flaen yr allor.”
20. Yna'n gynnar y bore wedyn dyma Heseceia'n galw arweinwyr y ddinas at ei gilydd a mynd i deml yr ARGLWYDD.
21. Aethon nhw â saith tarw ifanc, saith hwrdd, saith oen a saith bwch gafr yn aberth dros bechod y deyrnas, y deml a gwlad Jwda. A dyma'r brenin yn gofyn i'r offeiriaid (disgynyddion Aaron) eu llosgi'n offrymau ar allor yr ARGLWYDD.
22. Felly dyma'r offeiriaid yn lladd y teirw a sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. Yna gwneud yr un peth gyda'r hyrddod a'r ŵyn.
23. Yna'n olaf dyma nhw'n dod â'r bwch geifr (oedd i fod yn offrwm i lanhau o bechod) at y brenin a'r bobl eraill oedd yno iddyn nhw osod eu dwylo ar ben y geifr.
24. Wedyn dyma'r offeiriaid yn eu lladd a rhoi'r gwaed ar yr allor yn offrwm dros bechodau Israel gyfan. Roedd y brenin wedi dweud fod yr offrymau i'w llosgi a'r aberthau dros bechodau Israel gyfan.
25. Yna dyma'r Brenin Heseceia yn gosod y Lefiaid yn eu lle yn nheml yr ARGLWYDD gyda symbalau, nablau a thelynau, fel roedd y brenin Dafydd wedi dweud. (Yr ARGLWYDD oedd wedi rhoi'r cyfarwyddiadau yma drwy Gad, proffwyd y brenin a'r proffwyd Nathan).
26. Felly roedd y Lefiaid yn sefyll gydag offerynnau'r Brenin Dafydd, a'r offeiriaid gydag utgyrn.
27. A dyma Heseceia'n rhoi'r gair iddyn nhw losgi'r offrymau ar yr allor. Wrth iddyn nhw ddechrau gwneud hynny dyma ddechrau canu mawl i'r ARGLWYDD i gyfeiliant yr utgyrn ac offerynnau Dafydd, brenin Israel.
28. Roedd y gynulleidfa gyfan yn plygu i lawr i addoli, y cantorion yn canu a'r utgyrn yn seinio nes i'r offrwm orffen llosgi.
29. Ar ôl llosgi'r offrwm dyma'r brenin a phawb oedd gydag e yn plygu i lawr ac addoli.
30. Yna dyma'r Brenin Heseceia yn dweud wrth y Lefiaid am foli'r ARGLWYDD drwy ganu'r caneuon ysgrifennodd y brenin Dafydd a'r proffwyd Asaff. Felly buon nhw wrthi'n canu'n llawen ac yn plygu i lawr ac yn addoli.
31. Yna dyma Heseceia'n dweud, “Nawr dych chi wedi rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD. Dewch i aberthu ac i gyflwyno offrymau diolch iddo.” Felly dyma'r bobl yn dod ag aberthau ac offrymau diolch, ac roedd rhai yn awyddus i ddod ag anifeiliaid yn offrymau i'w llosgi hefyd.
32. Dyma faint o anifeiliaid gafodd eu rhoi gan y gynulleidfa: 70 tarw, 100 o hyrddod a 200 o ddefaid yn offrymau i'w llosgi.
33. Roedd 600 o deirw a 3,000 o ddefaid eraill wedi cael eu rhoi,
34. ond doedd dim digon o offeiriaid i'w blingo nhw i gyd. Felly roedd rhaid i'r Lefiaid eu helpu nhw i orffen y gwaith nes bod digon o offeiriaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain. (Roedd y Lefiaid wedi bod yn fwy gofalus i fynd trwy'r defodau na'r offeiriaid.)
35. Yn ogystal â'r anifeiliaid i'w llosgi, roedd yna lawer iawn o fraster o'r offrymau diolch, a hefyd yr offrymau o ddiod oedd i fynd gyda pob offrwm i'w losgi.Felly dyma nhw'n ailddechrau addoli'r ARGLWYDD yn y deml.
36. Ac roedd Heseceia a'r bobl i gyd yn dathlu fod Duw wedi galluogi'r cwbl i ddigwydd mor gyflym.