Yna dyma nhw'n casglu gweddill y Lefiaid at ei gilydd a mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain. A wedyn mynd ati i gysegru teml yr ARGLWYDD, fel roedd y brenin wedi dweud. Roedden nhw'n gwneud popeth yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.