Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 3 beibl.net 2015 (BNET)

Dechrau adeiladu'r Deml

1. Yna dechreuodd Solomon adeiladu teml yr ARGLWYDD ar fryn Moreia yn Jerwsalem, yn y lle roedd Dafydd wedi dweud, sef ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad. Dyna lle roedd yr ARGLWYDD wedi cyfarfod Dafydd.

2. Dechreuodd adeiladu ar ail ddiwrnod yr ail fis o'i bedwaredd flwyddyn fel brenin.

3. A dyma fesuriadau sylfaeni'r Deml roedd Solomon yn ei hadeiladu: dau ddeg saith metr o hyd a naw metr o led (yr hen fesuriadau oedd yn cael eu defnyddio.)

4. Roedd y cyntedd o flaen y deml yn naw metr o hyd, yn erbyn ffrynt y deml, ac roedd yn naw metr o uchder. Roedd tu mewn yr ystafell wedi ei gorchuddio gydag aur pur.

5. Rhoddodd baneli o goed pinwydd ar waliau mewnol y brif neuadd, a gorchuddio'r cwbl gydag aur pur wedi ei addurno gyda coed palmwydd a cadwyni.

6. Roedd y deml wedi ei haddurno gyda meini gwerthfawr, ac aur o Parfaîm

7. i orchuddio trawstiau'r to, y rhiniogau, y waliau a'r drysau. Roedd ceriwbiaid wedi eu cerfio yn addurno'r waliau.

8. Gwnaeth y cysegr mwyaf sanctaidd yn naw metr o hyd a naw metr o led, a'i orchuddio gyda 20 tunnell o aur pur.

9. Roedd yr hoelion aur yn pwyso pum cant saith deg gram yr un. Ac roedd wedi gorchuddio'r ystafelloedd uchaf gydag aur hefyd.

10. Yna yn y cysegr mwyaf sanctaidd gwnaeth ddau geriwb a'i gorchuddio nhw gydag aur.

11. Roedd adenydd y ddau geriwb yn ymestyn 9 metr ar draws. Roedd un o adenydd y ceriwb cyntaf yn cyffwrdd wal y deml, ac adenydd y ddau geriwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol.

12. Wedyn roedd aden arall yr ail geriwb yn cyffwrdd y wal yr ochr arall i'r deml.

13. Roedd yr adenydd gyda'i gilydd yn ymestyn naw metr ar draws. Roedden nhw'n sefyll yn syth, ac yn wynebu at i mewn.

14. Gwnaeth len o ddefnydd glas, porffor, coch a lliain main, gyda lluniau o geriwbiaid wedi ei frodio arno.

15. O flaen y deml gwnaeth ddau biler oedd yn un deg chwech metr o uchder, gyda cap oedd dros ddau fetr o uchder ar dop y ddau.

16. Gwnaeth gadwyni, fel y rhai yn y cysegr, i addurno top y pileri. A gwnaeth gant o dlysau siâp pomgranadau i'w gosod ar y cadwyni.

17. Gosododd y ddau biler o flaen y brif neuadd yn y deml – un ar y dde a'r llall ar y chwith. Galwodd yr un oedd ar y dde yn Iachin a'r un oedd ar y chwith yn Boas.