Roedd y gwaith glanhau wedi dechrau ar ddiwrnod cynta'r mis cyntaf. Mewn wythnos roedden nhw wedi cyrraedd cyntedd teml yr ARGLWYDD. Wedyn am wythnos arall buon nhw'n cysegru'r deml, a cafodd y gwaith ei orffen ar ddiwrnod un deg chwech o'r mis.