Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 12 beibl.net 2015 (BNET)

Yr Aifft yn ymosod ar Jwda

1. Pan oedd teyrnas Rehoboam wedi ei sefydlu a'i chryfhau, dyma fe a pobl Jwda i gyd yn troi cefn ar gyfraith yr ARGLWYDD.

2. Felly, yn ystod pumed flwyddyn Rehoboam fel brenin dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem. Roedden nhw wedi bod yn anffyddlon i'r ARGLWYDD.

3. Roedd gan Shishac 1,200 o gerbydau rhyfel, 60,000 o farchogion, a gormod o filwyr i'w cyfrif! Roedden nhw wedi dod gydag e o'r Aifft, ac yn cynnwys milwyr o Libia, Swccoth ac Affrica.

4. Dyma fe'n concro trefi amddiffynnol Jwda ac yn mynd i ymosod ar Jerwsalem.

5. Roedd Rehoboam ac arweinwyr Jwda wedi dod at ei gilydd i Jerwsalem o achos ymosodiaid Shishac. Dyma'r proffwyd Shemaia yn mynd atyn nhw a dweud wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi wedi troi cefn arna i, dw i wedi troi cefn arnoch chi. Dw i'n mynd i adael i Shishac eich dal chi.’”

6. Yna dyma arweinwyr Israel a'r brenin yn cyfaddef eu bai a dweud, “Mae'r ARGLWYDD yn iawn.”

7. Pan welodd yr ARGLWYDD eu bod nhw wedi syrthio ar eu bai, dyma fe'n rhoi'r neges yma i Shemaia: “Am eu bod wedi syrthio ar eu bai wna i ddim eu dinistrio nhw. Cân nhw eu hachub yn fuan. Dw i ddim yn mynd i ddefnyddio Shishac i dywallt fy llid ar Jerwsalem.

8. Ond er hynny bydd rhaid iddyn nhw fod yn weision iddo, a byddan nhw'n dod i ddeall y gwahaniaeth rhwng fy ngwasanaethu i a gwasanaethu teyrnasoedd y byd.”

9. Felly dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem, a dwyn trysorau teml yr ARGLWYDD a'r palas brenhinol – cymerodd y cwbl, gan gynnwys yr holl darianau aur roedd Solomon wedi eu gwneud!

10. Roedd rhaid i'r brenin Rehoboam wneud tariannau pres yn eu lle i'w rhoi i swyddogion y gwarchodlu brenhinol oedd yn amddiffyn y palas.

11. Roedd y gwarchodlu brenhinol yn eu defnyddio bob tro roedd y brenin yn mynd i'r deml, ond yna'n mynd â nhw'n ôl i ystafell y gwarchodlu.

12. Pan syrthiodd Rehoboam ar ei fai wnaeth yr ARGLWYDD ddim ei ddinistrio'n llwyr. Yna buodd pethau'n dda ar Jwda.

Crynodeb o deyrnasiad Rehoboam

13. Dyma Rehoboam yn cryfhau ei deyrnas yn Jerwsalem. Roedd e'n bedwar deg un mlwydd oed pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg a saith o flynyddoedd. Jerwsalem, y ddinas roedd yr ARGLWYDD wedi dewis byw ynddi o holl lwythau Israel. Enw mam Rehoboam oedd Naäma, ac roedd hi'n dod o wlad Ammon.

14. Ond roedd yn frenin drwg am ei fod heb ddilyn yr ARGLWYDD o ddifrif.

15. Mae hanes Rehoboam, o'r dechrau i'r diwedd, a hanes ei deulu, i'w weld yn Negeseuon Shemaia y Proffwyd ac Ido y Gweledydd. Roedd Rehoboam yn rhyfela yn erbyn Jeroboam, brenin Israel, drwy gydol ei deyrnasiad.

16. Pan fu farw, cafodd Rehoboam ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Ei fab Abeia ddaeth yn frenin yn ei le.