Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Cafodd cofrestrau teuluol eu cadw i bobl Israel i gyd. Maen nhw i'w gweld yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.Roedd pobl Jwda wedi cael eu cymryd yn gaeth i Babilon am eu bod wedi bod yn anufudd.

Y bobl ddaeth yn ôl o'r gaethglud i Jerwsalem

2. Y rhai cyntaf o'r Israeliaid i ddod yn ôl i fyw yn eu hardaloedd a'u trefi eu hunain oedd yr offeiriaid, y Lefiaid a gweision y deml.

3. Dyma rai o bobl llwythau Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse yn setlo yn Jerwsalem.

4-6. Roedd 690 o bobl o lwyth Jwda wedi setlo yn Jerwsalem:Teulu Wthai fab Amihwd, mab Omri, mab Imri, mab Bani, oedd yn un o ddisgynyddion Perets fab Jwda.Teulu Asaia, un o ddisgynyddion Shela.Teulu Iewel, un o ddisgynyddion Serach.

7. O ddisgynyddion Benjamin:Salw fab Meshwlam, mab Hodafia, mab Hasenŵa

8. Ibneia fab IerochamEla, mab Wssi ac ŵyr i Michri.Meshwlam fab Sheffateia, mab Reuel, mab Ibnïa.

9. Roedd 956 o'u perthnasau nhw wedi eu rhestru yn y rhestrau teuluol. Roedd y dynion yma i gyd yn benaethiaid eu teuluoedd.

Yr Offeiriaid yn Jerwsalem

10. O'r offeiriaid:Idaïa; Iehoiarif; Iachin;

11. Asareia fab Chilceia, mab Meshwlam, mab Sadoc, mab Meraioth, mab Achitwf (oedd yn brif swyddog yn nheml Dduw);

12. Adaia fab Ierocham, mab Pashchwr, mab Malcîa; a Maasai fab Adiel, mab Iachsera, mab Meshwlam, mab Meshilemith, mab Immer;

13. a perthnasau iddyn nhw oedd yn benaethiaid eu teuluoedd. 1,760 o ddynion oedd yn gallu cyflawni'r gwahanol dasgau oedd i'w gwneud yn nheml Dduw.

Y Lefiaid yn Jerwsalem

14. O'r Lefiaid:Shemaia fab Chashwf, mab Asricam, mab Chashafeia, oedd yn perthyn i glan Merari;

15. Bacbacâr; Cheresh; Galal; Mataneia fab Micha, mab Sichri, mab Asaff;

16. Obadeia fab Shemaia, mab Galal, mab Iedwthwn; a Berecheia fab Asa, mab Elcana, oedd wedi byw yn y pentrefi yn ardal Netoffa.

Gofalwyr y deml

17. Gofalwyr y giatiau:Shalwm, Accwf, Talmon, Achiman, a'u perthnasau. (Shalwm oedd y pennaeth.)

18. Cyn hyn, nhw oedd y gwylwyr yng ngwersylloedd y Lefiaid i'r dwyrain o Giât y Brenin.

19. Shalwm fab Core, mab Ebiasaff, mab Cora, a'i berthnasau ar ochr ei dad (sef y Corahiaid), oedd yn gyfrifol am warchod y fynedfa i'r cysegr. Eu hynafiaid nhw oedd wedi bod yn gyfrifol am warchod y fynedfa i wersyll yr ARGLWYDD.

20. Phineas fab Eleasar, oedd yn arolygu'r gwaith ers talwm, ac roedd yr ARGLWYDD wedi bod gydag e.

21. A Sechareia fab Meshelemeia oedd yn gwarchod y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.

22. Roedd yna ddau gant un deg dau ohonyn nhw i gyd wedi cael eu dewis i warchod y fynedfa. Roedd eu henwau wedi eu rhestru yng nghofrestrau teuluol eu pentrefi. Y brenin Dafydd a Samuel y proffwyd oedd wedi eu penodi i'w swyddi.

23. Felly nhw a'u disgynyddion oedd i ofalu am warchod y fynedfa i gysegr yr ARGLWYDD (sef y Tabernacl).

24. Roedden nhw i'w warchod ar y pedair ochr: i'r dwyrain, gorllewin, gogledd a de.

25. Roedd eu perthnasau o'r pentrefi yn dod atyn nhw bob hyn a hyn i wasanaethu gyda nhw am saith diwrnod.

26. Roedd y pedwar prif ofalwr yn swyddogion y gellid eu trystio, ag yn gyfrifol am warchod y stordai lle roedd trysorau'r cysegr.

27. Roedden nhw ar wyliadwriaeth drwy'r nos o gwmpas cysegr Duw. Nhw oedd yn gyfrifol amdano ac yn agor y drysau bob bore.

Lefiaid eraill

28. Roedd rhai ohonyn nhw'n gyfrifol am lestri'r gwasanaeth. Roedden nhw i gyfri'r cwbl wrth eu cymryd allan a'u cadw.

29. Roedd eraill yn gofalu am ddodrefn ac offer y lle sanctaidd. Nhw oedd â gofal am y blawd mân, y gwin, yr olew olewydd, y thus a'r perlysiau hefyd.

30. (Ond dim ond offeiriaid oedd yn cael cymysgu'r perlysiau.)

31. Roedd Matitheia, un o'r Lefiaid (mab hynaf Shalwm o glan Cora) yn gyfrifol am bobi'r bara ar gyfer yr offrymau.

32. Roedd rhai o'u perthnasau, oedd yn perthyn i'r un clan, yn gyfrifol am baratoi'r bara oedd yn cael ei osod yn bentwr bob Saboth.

33. Roedd y cantorion oedd yn benaethiaid ar deuluoedd y Lefiaid yn aros mewn ystafelloedd, ac yn rhydd o ddyletswyddau eraill. Roedd eu gwaith nhw yn mynd yn ei flaen ddydd a nos.

34. Y rhain oedd penaethiaid teuluoedd llwyth Lefi, fel roedden nhw wedi eu rhestru yn y cofrestrau teuluol. Roedden nhw'n byw yn Jerwsalem.

Rhestr Achau Saul

35. Roedd Jeiel (tad Gibeon) yn byw yn nhre Gibeon (ac enw ei wraig oedd Maacha).

36. Abdon oedd enw ei fab hynaf, wedyn Swr, Cish, Baal, Ner, Nadab,

37. Gedor, Achïo, Sechareia, a Micloth.

38. Micloth oedd tad Shimeam. Roedden nhw hefyd yn byw gyda'i perthnasau yn Jerwsalem.

39. Ner oedd tad Cish, a Cish oedd tad Saul. Wedyn Saul oedd tad Jonathan, Malci-shwa, Abinadab, ac Eshbaal.

40. Mab Jonathan:Merib-baalMerib-baal oedd tad Micha.

41. Meibion Micha:Pithon, Melech, Tarea, ac Achas.

42. Achas oedd tad Iada, a Iada oedd tad Alemeth, Asmafeth a Simri.Simri oedd tad Motsa,

43. a Motsa oedd tad Binea. Reffaia oedd enw mab Binea, Elasa yn fab i Reffaia, ac Atsel yn fab i Elasa.

44. Roedd gan Atsel chwe mab:Asricam oedd yr hynaf, wedyn Ishmael, Sheareia, Obadeia, a Chanan. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Atsel.