Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 25 beibl.net 2015 (BNET)

Trefnu y Cerddorion

1. Dyma Dafydd a swyddogion y fyddin yn dewis rhai o ddisgynyddion Asaff, Heman a Iedwthwn i broffwydo i gyfeiliant telynau, nablau a symbalau. Dyma'r dynion gafodd y gwaith yma:

2. Meibion Asaff:Saccwr, Joseff, Nethaneia, ac Asarela, dan arweiniad eu tad Asaff, oedd yn proffwydo pan oedd y brenin yn dweud.

3. Meibion Iedwthwn:Gedaleia, Seri, Ishaeia, Chashafeia, a Matitheia – chwech, dan arweiniad eu tad Iedwthwn. Roedd yn proffwydo wrth ganu'r delyn, yn diolch ac yn moli'r ARGLWYDD.

4. Meibion Heman:Bwcïa, Mataneia, Wssiel, Shefwel, Ierimoth, Chananeia, Chanani, Eliatha, Gidalti, Romamti-Eser, Ioshbecashâ, Maloti, Hothir, a Machsïot.

5. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Heman, proffwyd y brenin. Roedd Duw wedi addo'r meibion yma iddo i'w wneud yn ddyn oedd yn uchel ei barch. Roedd Duw wedi rhoi un deg pedwar o feibion a thair merch iddo.

6. Roedd tadau y rhain yn eu harolygu. Cerddorion teml yr ARGLWYDD oedden nhw, yn canu symbalau, nablau a thelynau yn yr addoliad. Y brenin ei hun oedd yn arolygu Asaff, Iedwthwn a Heman.

7. Roedd 288 ohonyn nhw yn canu o flaen yr ARGLWYDD; i gyd yn gerddorion dawnus a phrofiadol.

8. Dyma nhw'n defnyddio coelbren i benderfynu pryd roedden nhw ar ddyletswydd. Doedd oedran ddim yn cael ei ystyried, na p'run ai oedden nhw'n athrawon neu'n ddisgyblion.