Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 24 beibl.net 2015 (BNET)

Trefnu'r grwpiau o Offeiriaid

1. Dyma sut cafodd disgynyddion Aaron eu rhannu'n grwpiau:Meibion Aaron:Nadab, Abihw, Eleasar, ac Ithamar.

2. (Buodd Nadab ac Abihw farw cyn eu tad, a doedd ganddyn nhw ddim plant. Roedd Eleasar ac Ithamar yn gwasanaethu fel offeiriaid.)

3. Dyma Dafydd, gyda help Sadoc (oedd yn ddisgynnydd i Eleasar), ac Achimelech (oedd yn ddisgynnydd i Ithamar), yn rhannu'r offeiriaid yn grwpiau oedd â chyfrifoldebau arbennig.

4. Roedd mwy o arweinwyr yn ddisgynyddion i Eleasar nag oedd i Ithamar, a dyma sut cawson nhw eu rhannu: un deg chwech arweinydd oedd yn ddisgynyddion i Eleasar, ac wyth oedd yn ddisgynyddion i Ithamar.

5. Er mwyn bod yn deg, cafodd coelbren ei ddefnyddio i'w rhannu nhw, fel bod pob un oedd yn gwasanaethu yn arweinwyr yn y cysegr wedi eu dewis gan Dduw.

6. Dyma'r ysgrifennydd, Shemaia fab Nethanel (oedd yn Lefiad) yn ysgrifennu'r enwau i gyd o flaen y brenin, ei swyddogion, Sadoc yr offeiriad, Achimelech fab Abiathar, ac arweinwyr yr offeiriad a'r Lefiaid. Roedd un yn cael ei ddewis drwy ddefnyddio coelbren o deulu Eleasar, ac yna'r nesaf o deulu Ithamar.

7-18. A dyma'r drefn fel cawson nhw eu dewis:1. Iehoiarif 13. Chwpa 2. Idaïa 14. Ieshebëab 3. Charîm 15. Bilga 4. Seorîm 16. Immer 5. Malcîa 17. Chesir 6. Miamin 18. Hapitsets 7. Hacots 19. Pethacheia 8. Abeia 20. Iechescel 9. Ieshŵa 21. Iachin 10. Shechaneia 22. Gamwl 11. Eliashif 23. Delaia 12. Iacîm 24. Maaseia

19. A dyna'r drefn roedden nhw'n gwneud eu gwaith yn y deml, yn ôl y canllawiau roedd Aaron, eu hynafiad, wedi eu gosod, fel roedd yr ARGLWYDD Dduw wedi dweud wrtho.

Gweddill y Lefiaid

20. Dyma weddill y Lefiaid:Shwfa-el, o ddisgynyddion Amram;Iechdeia, o ddisgynyddion Shwfa-el;

21. Ishïa, mab hynaf Rechabeia, o ddisgynyddion Rechabeia.

22. Shlomoth o'r Its'hariaid;Iachath, o ddisgynyddion Shlomoth.

23. Disgynyddion Hebron:Ierïa yn arwain, yna Amareia, Iachsiel, ac Icameam.

24. Disgynyddion Wssiel:Micha, a Shamîr (un o feibion Micha).

25. Brawd Micha:Ishïa, a Sechareia (un o feibion Ishïa)

26. Disgynyddion Merari:Machli a Mwshi.Mab Iaäseia:Beno.

27. Disgynyddion Merari, o Iaäseia:Beno, Shoham, Saccwr ac Ifri.

28. O Machli:Eleasar, oedd heb feibion.

29. O Cish:Ierachmeël.

30. Disgynyddion Mwshi:Machli, Eder, a Ierimoth.(Y rhain oedd y Lefiaid, wedi eu rhestru yn ôl eu teuluoedd.)

31. Yn union fel gyda'i perthnasau yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, cafodd coelbren ei ddefnyddio o flaen y Brenin Dafydd, Sadoc, Achimelech, penaethiaid teuluoedd, yr offeiriaid a'r Lefiaid. Doedd safle ac oedran ddim yn cael ei ystyried.