Shalwm fab Core, mab Ebiasaff, mab Cora, a'i berthnasau ar ochr ei dad (sef y Corahiaid), oedd yn gyfrifol am warchod y fynedfa i'r cysegr. Eu hynafiaid nhw oedd wedi bod yn gyfrifol am warchod y fynedfa i wersyll yr ARGLWYDD.