Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29

Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 14 beibl.net 2015 (BNET)

Dylanwad Dafydd yn tyfu

1. Dyma Huram, brenin Tyrus, yn anfon negeswyr at Dafydd. Anfonodd seiri coed a seiri maen gyda nhw, a choed cedrwydd, i adeiladu palas i Dafydd.

2. Roedd Dafydd yn gweld mai'r ARGLWYDD oedd wedi ei wneud yn frenin ar Israel ac wedi gwneud i'w deyrnas lwyddo'n fawr, er mwyn ei bobl Israel.

3. Yn Jerwsalem dyma Dafydd yn cymryd mwy o wragedd, ac yn cael mwy o blant eto.

4. Dyma enwau'r plant gafodd e yn Jerwsalem: Shammwa, Shofaf, Nathan, Solomon,

5. Ifchar, Elishwa, Elpelet,

6. Noga, Neffeg, Jaffia,

7. Elishama, B'eliada ac Eliffelet.

Ennill brwydr yn erbyn y Philistiaid

8. Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi cael ei eneinio'n frenin ar Israel i gyd, dyma eu byddin gyfan yn mynd allan i chwilio amdano. Clywodd Dafydd am hyn, ac aeth allan i ymladd yn eu herbyn nhw.

9. Roedd byddin y Philistiaid wedi dod ac ymosod ar Ddyffryn Reffaïm.

10. Dyma Dafydd yn gofyn i Dduw, “Ddylwn i fynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid? Fyddi di'n gwneud i mi ennill?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, achos bydda i yn eu rhoi nhw i ti.”

11. Felly aeth i Baal-peratsîm a'u trechu nhw yno. Dwedodd Dafydd, “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri trwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr.” A dyna pam wnaeth e alw'r lle hwnnw yn Baal-peratsîm.

12. Roedd y Philistiaid wedi gadael eu heilun-dduwiau ar ôl, a dyma Dafydd yn gorchymyn iddyn nhw gael eu llosgi.

13. Dyma'r Philistiaid yn ymosod eto ar y dyffryn.

14. A dyma Dafydd yn mynd i ofyn eto i Dduw beth i'w wneud. Y tro yma cafodd yr ateb, “Paid ymosod arnyn nhw o'r tu blaen. Dos rownd y tu ôl iddyn nhw ac ymosod o gyfeiriad y coed balsam.

15. Pan fyddi'n clywed sŵn cyffro yn y coed, ymosod ar unwaith. Dyna'r arwydd fod Duw yn mynd o dy flaen di i daro byddin y Philistiaid.”

16. Felly dyma Dafydd yn gwneud fel roedd Duw wedi dweud wrtho, a dyma nhw'n taro byddin y Philistiaid yr holl ffordd o Gibeon i gyrion Geser.

17. Roedd Dafydd yn enwog ym mhobman; roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i'r gwledydd i gyd ei ofni.