Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Oherwydd paham, diesgus wyt ti, O ddyn, pwy bynnag wyt yn barnu: canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr un pethau.

2. Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau.

3. Ac a wyt ti'n tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu'r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw?

4. Neu a wyt ti'n diystyru golud ei ddaioni ef, a'i ddioddefgarwch, a'i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch?

5. Eithr yn ôl dy galedrwydd, a'th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw,

6. Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd:

7. Sef i'r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, bywyd tragwyddol:

8. Eithr i'r rhai sydd gynhennus, ac anufudd i'r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint;

9. Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyntaf, a'r Groegwr hefyd:

10. Eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un sydd yn gwneuthur daioni; i'r Iddew yn gyntaf, ac i'r Groegwr hefyd.

11. Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw.

12. Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddi‐ddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddi‐ddeddf; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf, a fernir wrth y ddeddf;

13. (Canys nid gwrandawyr y ddeddf sydd gyfiawn gerbron Duw, ond gwneuthurwyr y ddeddf a gyfiawnheir.

14. Canys pan yw'r Cenhedloedd y rhai nid yw'r ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, y rhai hyn heb fod y ddeddf ganddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain:

15. Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, a'u cydwybod yn cyd‐dystiolaethu, a'u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd, neu yn esgusodi;)

16. Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist.

17. Wele, Iddew y'th elwir di, ac yr wyt yn gorffwys yn y ddeddf, ac yn gorfoleddu yn Nuw;

18. Ac yn gwybod ei ewyllys ef, ac yn darbod pethau rhagorol, gan fod wedi dy addysgu o'r ddeddf;

19. Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i'r deillion, yn llewyrch i'r rhai sydd mewn tywyllwch,

20. Yn athro i'r angall, yn ddysgawdwr i'r rhai bach, a chennyt ffurf y gwybodaeth a'r gwirionedd yn y ddeddf.

21. Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni'th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladrater, a ladreti di?

22. Yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau, a gysegrysbeili di?

23. Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y ddeddf, trwy dorri'r ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw?

24. Canys enw Duw o'ch plegid chwi a geblir ymhlith y Cenhedloedd, megis y mae yn ysgrifenedig.

25. Canys enwaediad yn wir a wna les, os cedwi y ddeddf: eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad.

26. Os y dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad?

27. Ac oni bydd i'r dienwaediad yr hwn sydd o naturiaeth, os ceidw y ddeddf, dy farnu di, yr hwn wrth y llythyren a'r enwaediad wyt yn troseddu'r ddeddf?

28. Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iddew; ac nid enwaediad yw yr hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd:

29. Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew; ac enwaediad y galon sydd yn yr ysbryd, nid yn y llythyren; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw.