Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A nyni y rhai ydym gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain.

2. Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth.

3. Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun; eithr, megis y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a'th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf fi.

4. Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o'r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau, y gallem gael gobaith.

5. A Duw yr amynedd a'r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ôl Crist Iesu:

6. Fel y galloch yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.

7. Oherwydd paham derbyniwch eich gilydd, megis ag y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw.

8. Ac yr wyf yn dywedyd, wneuthur Iesu Grist yn weinidog i'r enwaediad, er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau'r addewidion a wnaethpwyd i'r tadau:

9. Ac fel y byddai i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd; fel y mae yn ysgrifenedig, Am hyn y cyffesaf i ti ymhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i'th enw.

10. A thrachefn y mae yn dywedyd, Ymlawenhewch, Genhedloedd, gyda'i bobl ef.

11. A thrachefn, Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd; a chlodforwch ef, yr holl bobloedd.

12. A thrachefn y mae Eseias yn dywedyd, Fe fydd gwreiddyn Jesse, a'r hwn a gyfyd i lywodraethu'r Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia'r Cenhedloedd.

13. A Duw'r gobaith a'ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu, fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân.

14. Ac yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn credu amdanoch chwi, eich bod chwithau yn llawn daioni, wedi eich cyflawni o bob gwybodaeth, ac yn abl i rybuddio eich gilydd hefyd.

15. Eithr mi a ysgrifennais yn hyach o beth atoch, O frodyr, fel un yn dwyn ar gof i chwi, trwy'r gras a roddwyd i mi gan Dduw;

16. Fel y byddwn weinidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd, gan weini i efengyl Duw, fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân.

17. Y mae i mi gan hynny orfoledd yng Nghrist Iesu, o ran y pethau a berthyn i Dduw.

18. Canys ni feiddiaf fi ddywedyd dim o'r pethau ni weithredodd Crist trwof fi, i wneuthur y Cenhedloedd yn ufudd ar air a gweithred,

19. Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, gan nerth Ysbryd Duw; hyd pan o Jerwsalem, ac o amgylch hyd Ilyricum, y llenwais efengyl Crist.

20. Ac felly gan ymorchestu i bregethu'r efengyl, nid lle yr enwid Crist: fel nad adeiladwn ar sail un arall:

21. Eithr megis y mae yn ysgrifenedig, I'r rhai ni fynegwyd amdano, hwynt‐hwy a'i gwelant ef; a'r rhai ni chlywsant, a ddeallant.

22. Am hynny hefyd y'm lluddiwyd yn fynych i ddyfod atoch chwi.

23. Eithr yr awr hon, gan nad oes gennyf le mwyach yn y gwledydd hyn, a hefyd bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod atoch chwi;

24. Pan elwyf i'r Hispaen, myfi a ddeuaf atoch chwi: canys yr wyf yn gobeithio, wrth fyned heibio, y caf eich gweled, a'm hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwi ohonoch.

25. Ac yr awr hon yr wyf fi yn myned i Jerwsalem, i weini i'r saint.

26. Canys rhyngodd bodd i'r rhai o Facedonia ac Achaia wneuthur rhyw gymorth i'r rhai tlodion o'r saint sydd yn Jerwsalem.

27. Canys rhyngodd bodd iddynt; a'u dyledwyr hwy ydynt. Oblegid os cafodd y Cenhedloedd gyfran o'u pethau ysbrydol hwynt, hwythau hefyd a ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol.

28. Wedi i mi gan hynny orffen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn, mi a ddeuaf heboch i'r Hispaen.

29. Ac mi a wn, pan ddelwyf atoch, y deuaf â chyflawnder bendith efengyl Crist.

30. Eithr yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac er cariad yr Ysbryd, ar gydymdrech ohonoch gyda myfi mewn gweddïau drosof fi at Dduw;

31. Fel y'm gwareder oddi wrth y rhai anufudd yn Jwdea: ac ar fod fy ngweinidogaeth, yr hon sydd gennyf i Jerwsalem, yn gymeradwy gan y saint;

32. Fel y delwyf atoch mewn llawenydd, trwy ewyllys Duw, ac y'm cydlonner gyda chwi.

33. A Duw'r heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen.