Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yng Nghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd.

2. Canys deddf Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a'm rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth.

3. Canys yr hyn ni allai'r ddeddf, oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd:

4. Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd.

5. Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, am bethau'r cnawd y maent yn synio: eithr y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, am bethau'r Ysbryd.

6. Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; a syniad yr ysbryd, bywyd a thangnefedd yw:

7. Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw; oblegid nis gall chwaith.

8. A'r rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bodd Duw.

9. Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Ysbryd, od yw Ysbryd Duw yn trigo ynoch. Ac od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef.

10. Ac os yw Crist ynoch, y mae'r corff yn farw, oherwydd pechod; eithr yr Ysbryd yn fywyd, oherwydd cyfiawnder.

11. Ac os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch; yr hwn a gyfododd Grist o feirw a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd yr hwn sydd yn trigo ynoch.

12. Am hynny, frodyr, dyledwyr ydym, nid i'r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd.

13. Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch: eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corff trwy'r Ysbryd, byw fyddwch.

14. Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw.

15. Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy'r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad.

16. Y mae'r Ysbryd hwn yn cyd‐dystiolaethu â'n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw:

17. Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd‐etifeddion â Crist: os ydym yn cyd‐ddioddef gydag ef, fel y'n cydogonedder hefyd.

18. Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatguddir i ni.

19. Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw.

20. Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o'i fodd, eithr oblegid yr hwn a'i darostyngodd:

21. Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i ryddid gogoniant plant Duw.

22. Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn.

23. Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff.

24. Canys trwy obaith y'n hiachawyd. Eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae un yn ei weled, i ba beth y mae eto yn ei obeithio?

25. Ond os ydym ni yn gobeithio'r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano.

26. A'r un ffunud y mae'r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae'r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy.

27. A'r hwn sydd yn chwilio'r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint.

28. Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw; sef i'r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef.

29. Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf‐anedig ymhlith brodyr lawer.

30. A'r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a'r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a'r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe.

31. Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy a all fod i'n herbyn?

32. Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a'i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth;

33. Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw'r hwn sydd yn cyfiawnhau:

34. Pwy yw'r hwn sydd yn damnio? Crist yw'r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni.

35. Pwy a'n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf?

36. Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i'r lladdfa.

37. Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy'r hwn a'n carodd ni.

38. Canys y mae'n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod,

39. Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.