Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 1 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Paul, gwasanaethwr Iesu Grist, wedi ei alw i fod yn apostol, ac wedi ei neilltuo i efengyl Duw,

2. (Yr hon a ragaddawsai efe trwy ei broffwydi yn yr ysgrythurau sanctaidd,)

3. Am ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni, yr hwn a wnaed o had Dafydd o ran y cnawd;

4. Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy'r atgyfodiad oddi wrth y meirw:

5. Trwy'r hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth, i ufudd‐dod ffydd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw ef:

6. Ymysg y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist:

7. At bawb sydd yn Rhufain, yn annwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a thangnefedd oddi wrth Dduw ein Tad ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

8. Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i'm Duw trwy Iesu Grist drosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd.

9. Canys tyst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy ysbryd yn efengyl ei Fab ef, fy mod i yn ddi‐baid yn gwneuthur coffa ohonoch bob amser yn fy ngweddïau,

10. Gan ddeisyf a gawn ryw fodd, ryw amser bellach, rwydd hynt gydag ewyllys Duw i ddyfod atoch chwi.

11. Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysbrydol, fel y'ch cadarnhaer:

12. A hynny sydd i'm cydymgysuro ynoch chwi, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a'r eiddof finnau.

13. Eithr ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, (ond fo'm lluddiwyd i hyd yn hyn,) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ag yn y Cenhedloedd eraill.

14. Dyledwr ydwyf i'r Groegiaid, ac i'r barbariaid hefyd; i'r doethion, ac i'r annoethion hefyd.

15. Felly, hyd y mae ynof fi, parod ydwyf i bregethu'r efengyl i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain.

16. Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist: oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a'r sydd yn credu; i'r Iddew yn gyntaf, a hefyd i'r Groegwr.

17. Canys ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw o ffydd i ffydd; megis y mae yn ysgrifenedig, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.

18. Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o'r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder.

19. Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a'i heglurodd iddynt.

20. Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a'i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus:

21. Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a'u calon anneallus hwy a dywyllwyd.

22. Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid;

23. Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid.

24. O ba herwydd Duw hefyd a'u rhoddes hwy i fyny, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, i amherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain:

25. Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na'r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen.

26. Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fyny i wyniau gwarthus: canys eu gwragedd hwy a newidiasant yr arfer anianol i'r hon sydd yn erbyn anian:

27. Ac yn gyffelyb y gwŷr hefyd, gan adael yr arfer naturiol o'r wraig, a ymlosgent yn eu hawydd i'w gilydd; y gwŷr ynghyd â gwŷr yn gwneuthur brynti, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd raid.

28. Ac megis nad oedd gymeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, Duw a'u rhoddes hwynt i fyny i feddwl anghymeradwy, i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd:

29. Wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, godineb, anwiredd, cybydd‐dod, drygioni; yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwg anwydau;

30. Yn hustyngwyr, yn athrodwyr, yn gas ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn ddychmygwyr drygioni, yn anufudd i rieni,

31. Yn anneallus, yn dorwyr amod, yn angharedig, yn anghymodlon, yn anhrugarogion:

32. Y rhai yn gwybod cyfiawnder Duw, fod y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn, eithr hefyd yn cydymfodloni â'r rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt.