Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pa ragoriaeth gan hynny sydd i'r Iddew? neu pa fudd sydd o'r enwaediad?

2. Llawer, ym mhob rhyw fodd: yn gyntaf, oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw.

3. Oblegid beth os anghredodd rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer?

4. Na ato Duw: eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog; megis yr ysgrifennwyd, Fel y'th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y'th farner.

5. Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;)

6. Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd?

7. Canys os bu gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i yn helaethach i'w ogoniant ef, paham y'm bernir innau eto megis pechadur?

8. Ac nid, (megis y'n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn.

9. Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom o'r blaen fod pawb, yr Iddewon a'r Groegwyr, dan bechod;

10. Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un:

11. Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw.

12. Gŵyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un.

13. Bedd agored yw eu ceg; â'u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn asbiaid sydd dan eu gwefusau:

14. Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd:

15. Buan yw eu traed i dywallt gwaed:

16. Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd:

17. A ffordd tangnefedd nid adnabuant:

18. Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid.

19. Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae'r ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel y caeer pob genau, ac y byddo'r holl fyd dan farn Duw.

20. Am hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef; canys trwy'r ddeddf y mae adnabod pechod.

21. Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a'r proffwydi;

22. Sef cyfiawnder Duw, yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist, i bawb ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth:

23. Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw;

24. A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy'r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu:

25. Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw;

26. I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.

27. Pa le gan hynny y mae y gorfoledd? Efe a gaewyd allan. Trwy ba ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage; eithr trwy ddeddf ffydd.

28. Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, heb weithredoedd y ddeddf.

29. Ai i'r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? onid yw i'r Cenhedloedd hefyd? Yn wir y mae efe i'r Cenhedloedd hefyd:

30. Gan mai un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha'r enwaediad wrth ffydd, a'r dienwaediad trwy ffydd.

31. Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddi‐rym trwy ffydd? Na ato Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau'r ddeddf.