Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Marc 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a aeth i mewn drachefn i'r synagog; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo.

2. A hwy a'i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y cyhuddent ef.

3. Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo'r llaw wedi gwywo, Cyfod i'r canol.

4. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Saboth, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn.

5. Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon, gan dristáu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a'i hestynnodd: a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.

6. A'r Phariseaid a aethant allan, ac a ymgyngorasant yn ebrwydd gyda'r Herodianiaid yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.

7. A'r Iesu gyda'i ddisgyblion a giliodd tua'r môr: a lliaws mawr a'i canlynodd ef, o Galilea, ac o Jwdea,

8. Ac o Jerwsalem, ac o Idumea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen; a'r rhai o gylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, pan glywsant gymaint a wnaethai efe, a ddaethant ato.

9. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu ef.

10. Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd ag ef, cynifer ag oedd â phlâu arnynt.

11. A'r ysbrydion aflan, pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mab Duw.

12. Yntau a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef.

13. Ac efe a esgynnodd i'r mynydd, ac a alwodd ato y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant ato.

14. Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y byddent gydag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu;

15. Ac i fod ganddynt awdurdod i iacháu clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid.

16. Ac i Simon y rhoddes efe enw Pedr;

17. Ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, (ac efe a roddes iddynt enwau, Boanerges; yr hyn yw, Meibion y daran;)

18. Ac Andreas, a Philip, a Bartholomeus, a Mathew, a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Canaanead,

19. A Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef. A hwy a ddaethant i dŷ.

20. A'r dyrfa a ymgynullodd drachefn, fel na allent gymaint â bwyta bara.

21. A phan glybu'r eiddo ef, hwy a aethant i'w ddal ef: canys dywedasant, Y mae ef allan o'i bwyll.

22. A'r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i waered o Jerwsalem, a ddywedasant fod Beelsebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid.

23. Ac wedi iddo eu galw hwy ato, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?

24. Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll.

25. Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll.

26. Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd.

27. Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ'r cadarn, ac ysbeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo'r cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef.

28. Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant:

29. Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd:

30. Am iddynt ddywedyd, Y mae ysbryd aflan ganddo.

31. Daeth gan hynny ei frodyr ef a'i fam; a chan sefyll allan, hwy a anfonasant ato, gan ei alw ef.

32. A'r bobl oedd yn eistedd o'i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr allan yn dy geisio.

33. Ac efe a'u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Pwy yw fy mam i, neu fy mrodyr i?

34. Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywedodd, Wele fy mam i, a'm brodyr i.

35. Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam i.