Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Marc 5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A hwy a ddaethant i'r tu hwnt i'r môr, i wlad y Gadareniaid.

2. Ac ar ei ddyfodiad ef allan o'r llong, yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau, ddyn ag ysbryd aflan ynddo,

3. Yr hwn oedd â'i drigfan ymhlith y beddau; ac ni allai neb, ie, â chadwynau, ei rwymo ef:

4. Oherwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio ohono'r cadwynau, a dryllio'r llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef.

5. Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ymhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig.

6. Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a'i haddolodd ef;

7. A chan weiddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi.

8. (Canys dywedasai wrtho, Ysbryd aflan, dos allan o'r dyn.)

9. Ac efe a ofynnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a atebodd, gan ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer ohonom.

10. Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, na yrrai efe hwynt allan o'r wlad.

11. Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori.

12. A'r holl gythreuliaid a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i'r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt.

13. Ac yn y man y caniataodd yr Iesu iddynt. A'r ysbrydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i'r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a'u boddwyd yn y môr.

14. A'r rhai a borthent y moch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.

15. A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasai'r lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a ofnasant.

16. A'r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buasai i'r cythreulig, ac am y moch.

17. A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o'u goror hwynt.

18. Ac efe yn myned i'r llong, yr hwn y buasai'r cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gydag ef.

19. Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i'th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhau wrthyt.

20. Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.

21. Ac wedi i'r Iesu drachefn fyned mewn llong i'r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato: ac yr oedd efe wrth y môr.

22. Ac wele, un o benaethiaid y synagog a ddaeth, a'i enw Jairus: a phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef;

23. Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar dranc: atolwg i ti ddyfod, a dodi dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi; a byw fydd.

24. A'r Iesu a aeth gydag ef: a thyrfa fawr a'i canlynodd ef, ac a'i gwasgasant ef.

25. A rhyw wraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd,

26. Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai gymaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned waethwaeth,

27. Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o'r tu ôl, ac a gyffyrddodd â'i wisg ef;

28. Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf â'i ddillad ef, iach fyddaf.

29. Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei chorff ddarfod ei hiacháu o'r pla.

30. Ac yn y fan yr Iesu, gan wybod ynddo'i hun fyned rhinwedd allan ohono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd â'm dillad?

31. A'i ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli'r dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a'm cyffyrddodd?

32. Ac yntau a edrychodd o amgylch, i weled yr hon a wnaethai hyn.

33. Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd.

34. Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a'th iachaodd: dos mewn heddwch, a bydd iach o'th bla.

35. Ac efe eto yn llefaru, daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth eto yr aflonyddi'r Athro?

36. A'r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y synagog, Nac ofna; cred yn unig.

37. Ac ni adawodd efe neb i'w ddilyn, ond Pedr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago.

38. Ac efe a ddaeth i dŷ pennaeth y synagog, ac a ganfu'r cynnwrf, a'r rhai oedd yn wylo ac yn ochain llawer.

39. Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnewch gynnwrf, ac yr wylwch? ni bu farw'r eneth, eithr cysgu y mae.

40. A hwy a'i gwatwarasant ef. Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymerth dad yr eneth a'i mam, a'r rhai oedd gydag ef, ac a aeth i mewn lle yr oedd yr eneth yn gorwedd.

41. Ac wedi ymaflyd yn llaw'r eneth, efe a ddywedodd wrthi, Talitha, cwmi; yr hyn o'i gyfieithu yw, Yr eneth, yr wyf yn dywedyd wrthyt, cyfod.

42. Ac yn y fan y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd: canys deuddeng mlwydd oed ydoedd hi. A synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr.

43. Ac efe a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na châi neb wybod hyn; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i'w fwyta.