Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon, gan dristáu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a'i hestynnodd: a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.