Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Marc 4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr: a thyrfa fawr a ymgasglodd ato, hyd oni bu iddo fyned i'r llong, ac eistedd ar y môr; a'r holl dyrfa oedd wrth y môr, ar y tir.

2. Ac efe a ddysgodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth ef,

3. Gwrandewch: Wele, heuwr a aeth allan i hau:

4. A darfu, wrth hau, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant ac a'i difasant.

5. A pheth a syrthiodd ar greigle, lle ni chafodd fawr ddaear; ac yn y fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear.

6. A phan gododd yr haul, y poethwyd ef; ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd.

7. A pheth a syrthiodd ymhlith drain; a'r drain a dyfasant, ac a'i tagasant ef, ac ni ddug ffrwyth.

8. A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchiol, ac a ddug un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.

9. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

10. A phan oedd efe wrtho'i hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyda'r deuddeg a ofynasant iddo am y ddameg.

11. Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw: eithr i'r rhai sydd allan, ar ddamhegion y gwneir pob peth:

12. Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant; ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant; rhag iddynt ddychwelyd, a maddau iddynt eu pechodau.

13. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi'r ddameg hon? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion?

14. Yr heuwr sydd yn hau'r gair.

15. A'r rhai hyn yw'r rhai ar fin y ffordd, lle yr heuir y gair; ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymaith y gair a heuwyd yn eu calonnau hwynt.

16. A'r rhai hyn yr un ffunud yw'r rhai a heuir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen;

17. Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y maent: yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt.

18. A'r rhai hyn yw'r rhai a heuwyd ymysg y drain; y rhai a wrandawant y gair,

19. Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu'r gair, a myned y mae yn ddiffrwyth.

20. A'r rhai hyn yw'r rhai a heuwyd mewn tir da; y rhai sydd yn gwrando y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.

21. Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw cannwyll i'w dodi dan lestr, neu dan wely? ac nid i'w gosod ar ganhwyllbren?

22. Canys nid oes dim cuddiedig, a'r nis amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb.

23. Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.

24. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandewch.

25. Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a'r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.

26. Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i'r ddaear;

27. A chysgu, a chodi nos a dydd, a'r had yn egino ac yn tyfu, y modd nis gŵyr efe.

28. Canys y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ôl hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen.

29. A phan ymddangoso'r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo, am ddyfod y cynhaeaf.

30. Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddameg y gwnaem gyffelybrwydd ohoni?

31. Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan heuer yn y ddaear, sydd leiaf o'r holl hadau sydd ar y ddaear;

32. Eithr wedi yr heuer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy na'r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef.

33. Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrando:

34. Ond heb ddameg ni lefarodd wrthynt: ac o'r neilltu i'w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth.

35. Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhau hi, Awn trosodd i'r tu draw.

36. Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a'i cymerasant ef fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef.

37. Ac fe a gyfododd tymestl fawr o wynt, a'r tonnau a daflasant i'r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian.

38. Ac yr oedd efe yn y pen ôl i'r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a'i deffroesant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athro, ai difater gennyt ein colli ni?

39. Ac efe a gododd i fyny, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A'r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr.

40. Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd?

41. Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo?