1. Geiriau y Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem.
2. Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr, gwagedd o wagedd; gwagedd yw y cwbl.
3. Pa fudd sydd i ddyn o'i holl lafur a gymer efe dan yr haul?
4. Un genhedlaeth a â ymaith, a chenhedlaeth arall a ddaw: ond y ddaear a saif byth.
5. Yr haul hefyd a gyfyd, a'r haul a fachlud, ac a brysura i'w le lle y mae yn codi.
6. Y gwynt a â i'r deau, ac a amgylcha i'r gogledd: y mae yn myned oddi amgylch yn wastadol, y mae y gwynt yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd.
7. Yr holl afonydd a redant i'r môr, eto nid yw y môr yn llawn: o'r lle y daeth yr afonydd, yno y dychwelant eilwaith.
8. Pob peth sydd yn llawn blinder; ni ddichon dyn ei draethu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, ac ni ddigonir y glust â chlywed.
9. Y peth a fu, a fydd; a'r peth a wnaed, a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul.
10. A oes dim y gellir dywedyd amdano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd? efe fu eisoes yn yr hen amser o'n blaen ni.
11. Nid oes goffa am y pethau gynt; ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw, gan y rhai a ddaw ar ôl.
12. Myfi y Pregethwr oeddwn frenin ar Israel yn Jerwsalem;
13. Ac a roddais fy mryd ar geisio a chwilio trwy ddoethineb, am bob peth a wnaed dan y nefoedd: y llafur blin yma a roddes Duw ar feibion dynion i ymguro ynddo.
14. Mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed dan haul; ac wele, gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl.
15. Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ddiffygiol.
16. Mi a ymddiddenais â'm calon fy hun, gan ddywedyd, Wele, mi a euthum yn fawr, ac a gesglais ddoethineb tu hwnt i bawb a fu o'm blaen i yn Jerwsalem; a'm calon a ddeallodd lawer o ddoethineb a gwybodaeth.
17. Mi a roddais fy nghalon hefyd i wybod doethineb, ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb: mi a wybûm fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd.
18. Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig: a'r neb a chwanego wybodaeth, a chwanega ofid.