Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12

Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd; canys ti a'i cei ar ôl llawer o ddyddiau.

2. Dyro ran i saith, a hefyd i wyth: canys ni wyddost pa ddrwg a ddigwydd ar y ddaear.

3. Os bydd y cymylau yn llawn glaw, hwy a ddefnynnant ar y ddaear: ac os tua'r deau neu tua'r gogledd y syrth y pren; lle y syrthio y pren, yno y bydd efe.

4. Y neb a ddalio ar y gwynt, ni heua; a'r neb a edrycho ar y cymylau, ni feda.

5. Megis na wyddost ffordd yr ysbryd, na pha fodd y ffurfheir yr esgyrn yng nghroth y feichiog; felly ni wyddost waith Duw, yr hwn sydd yn gwneuthur y cwbl.

6. Y bore heua dy had, a phrynhawn nac atal dy law: canys ni wyddost pa un a ffynna, ai hyn yma ai hyn acw, ai ynteu da fyddant ill dau yn yr un ffunud.

7. Melys yn ddiau yw y goleuni, a hyfryd yw i'r llygaid weled yr haul.

8. Ond pe byddai dyn fyw lawer o flynyddoedd, a bod yn llawen ynddynt oll; eto cofied ddyddiau tywyllwch; canys llawer fyddant. Beth bynnag a ddigwydda, oferedd yw.

9. Gwna yn llawen, ŵr ieuanc, yn dy ieuenctid, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctid, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yng ngolwg dy lygaid: ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oll.

10. Am hynny bwrw ddig oddi wrth dy galon, a thro ymaith ddrwg oddi wrth dy gnawd: canys gwagedd yw mebyd ac ieuenctid.