Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12

Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwell yw enw da nag ennaint gwerthfawr; a dydd marwolaeth na dydd genedigaeth.

2. Gwell yw myned i dŷ galar, na myned i dŷ gwledd: canys hynny yw diwedd pob dyn; a'r byw a'i gesyd at ei galon.

3. Gwell yw dicter na chwerthin: canys trwy dristwch yr wynepryd y gwellheir y galon.

4. Calon doethion fydd yn nhŷ y galar; ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd.

5. Gwell yw gwrando sen y doeth, na gwrando cân ffyliaid.

6. Canys chwerthiniad dyn ynfyd sydd fel clindarddach drain dan grochan. Dyma wagedd hefyd.

7. Yn ddiau trawsedd a ynfyda y doeth, a rhodd a ddifetha y galon.

8. Gwell yw diweddiad peth na'i ddechreuad: gwell yw y dioddefgar o ysbryd na'r balch o ysbryd.

9. Na fydd gyflym yn dy ysbryd i ddigio: oblegid dig sydd yn gorffwys ym mynwes ffyliaid.

10. Na ddywed, Paham y bu y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn? canys nid o ddoethineb yr wyt yn ymofyn am y peth hyn.

11. Da yw doethineb gydag etifeddiaeth: ac o hynny y mae elw i'r rhai sydd yn gweled yr haul.

12. Canys cysgod yw doethineb, a chysgod yw arian: ond rhagoriaeth gwybodaeth yw bod doethineb yn rhoddi bywyd i'w pherchennog.

13. Edrych ar orchwyl Duw: canys pwy a all unioni y peth a gamodd efe?

14. Yn amser gwynfyd bydd lawen; ond yn amser adfyd ystyria: Duw hefyd a wnaeth y naill ar gyfer y llall, er mwyn na châi dyn ddim ar ei ôl ef.

15. Hyn oll a welais yn nyddiau fy ngwagedd: y mae un cyfiawn yn diflannu yn ei gyfiawnder, ac y mae un annuwiol yn estyn ei ddyddiau yn ei ddrygioni.

16. Na fydd ry gyfiawn; ac na chymer arnat fod yn rhy ddoeth: paham y'th ddifethit dy hun?

17. Na fydd ry annuwiol; ac na fydd ffôl: paham y byddit farw cyn dy amser?

18. Da i ti ymafael yn hyn; ac oddi wrth hyn na ollwng dy law: canys y neb a ofno Dduw, a ddaw allan ohonynt oll.

19. Doethineb a nertha y doeth, yn fwy na deg o gedyrn a fyddant yn y ddinas.

20. Canys nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni, ac ni phecha.

21. Na osod dy galon ar bob gair a ddyweder; rhag i ti glywed dy was yn dy felltithio.

22. Canys llawer gwaith hefyd y gŵyr dy galon, ddarfod i ti dy hun felltithio eraill.

23. Hyn oll a brofais trwy ddoethineb: mi a ddywedais, Mi a fyddaf ddoeth; a hithau ymhell oddi wrthyf.

24. Y peth sydd bell a dwfn iawn, pwy a'i caiff?

25. Mi a droais â'm calon i wybod, ac i chwilio, ac i geisio doethineb, a rheswm; ac i adnabod annuwioldeb ffolineb, sef ffolineb ac ynfydrwydd:

26. Ac mi a gefais beth chwerwach nag angau, y wraig y mae ei chalon yn faglau ac yn rhwydau, a'i dwylo yn rhwymau: y neb sydd dda gan Dduw, a waredir oddi wrthi hi; ond pechadur a ddelir ganddi.

27. Wele, hyn a gefais, medd y Pregethwr, wrth chwilio o'r naill beth i'r llall, i gael y rheswm;

28. Yr hwn beth eto y chwilia fy enaid amdano, ac ni chefais: un gŵr a gefais ymhlith mil; ond un wraig yn eu plith hwy oll nis cefais.

29. Wele, hyn yn unig a gefais; wneuthur o Dduw ddyn yn uniawn: ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychmygion.