Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12

Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd:

2. Amser i eni, ac amser i farw; amser i blannu, ac amser i dynnu y peth a blannwyd;

3. Amser i ladd, ac amser i iacháu; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu;

4. Amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio;

5. Amser i daflu cerrig ymaith, ac amser i gasglu cerrig ynghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio;

6. Amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith;

7. Amser i rwygo, ac amser i wnïo; amser i dewi, ac amser i ddywedyd;

8. Amser i garu, ac amser i gasáu; amser i ryfel, ac amser i heddwch.

9. Pa fudd sydd i'r gweithydd yn yr hyn y mae yn llafurio?

10. Mi a welais y blinder a roddes Duw ar feibion dynion, i ymflino ynddo.

11. Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth Duw o'r dechreuad hyd y diwedd.

12. Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fod yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd.

13. A bod i bob dyn fwyta ac yfed, a mwynhau daioni o'i holl lafur; rhodd Duw yw hynny.

14. Mi a wn beth bynnag a wnêl Duw, y bydd hynny byth; ni ellir na bwrw ato, na thynnu dim oddi wrtho: ac y mae Duw yn gwneuthur hyn, fel yr ofnai dynion ger ei fron ef.

15. Y peth a fu o'r blaen sydd yr awr hon; a'r peth sydd ar ddyfod a fu o'r blaen: Duw ei hun a ofyn y peth a aeth heibio.

16. Hefyd mi a welais dan yr haul le barn, yno yr oedd annuwioldeb; a lle cyfiawnder, yno yr oedd anwiredd.

17. Mi a ddywedais yn fy nghalon, Duw a farn y cyfiawn a'r anghyfiawn: canys y mae amser i bob amcan, ac i bob gwaith yno.

18. Mi a ddywedais yn fy nghalon am gyflwr meibion dynion; fel y byddai i Dduw eu hamlygu hwynt, ac y gwelent hwythau mai anifeiliaid ydynt.

19. Canys digwydd meibion dynion a ddigwydd i'r anifeiliaid; yr un digwydd sydd iddynt: fel y mae y naill yn marw, felly y bydd marw y llall; ie, yr un chwythad sydd iddynt oll; fel nad oes mwy rhagoriaeth i ddyn nag i anifail: canys gwagedd yw y cwbl.

20. Y mae y cwbl yn myned i'r un lle: pob un sydd o'r pridd, a phob un a dry i'r pridd eilwaith.

21. Pwy a edwyn ysbryd dyn, yr hwn sydd yn esgyn i fyny, a chwythad anifail, yr hwn sydd yn disgyn i waered i'r ddaear?

22. Am hynny mi a welaf nad oes dim well nag i ddyn ymlawenychu yn ei weithredoedd ei hun; canys hyn yw ei ran ef: canys pwy a'i dwg ef i weled y peth fydd ar ei ôl?