Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Y Daith i Rhages

1. Yna galwodd Tobias Raffael a dweud wrtho,

2. “Asarias, fy mrawd, cymer gyda thi bedwar gwas a dau gamel, a dos ar daith i Rhages. Ar ôl cyrraedd tŷ Gabael, rho iddo'r papur a lofnodwyd. Cymer yr arian yn ôl, ac yna tyrd â Gabael gyda thi i'r wledd briodas.

3-4. “Fel y gwyddost, bydd fy nhad yn cyfrif y dyddiau, ac ni allaf oedi un diwrnod heb achosi gofid mawr iawn iddo. Ond yr wyt ti'n sylwi hefyd sut lw a dyngodd Ragwel; ni allaf fynd yn groes i'w lw ef.”

5. Teithiodd Raffael, felly, ynghyd â'r pedwar gwas a'r ddau gamel i Rhages yn Media, a lletya yn nhŷ Gabael. Rhoddodd y papur i Gabael a'i hysbysu fod Tobias fab Tobit wedi cymryd gwraig, a'i fod yn estyn gwahoddiad iddo i'r briodas. A dyma Gabael ar ei union yn cyfrif iddo y codau a oedd yn dal dan sêl, a chasglwyd hwy at ei gilydd.

6. Cododd y ddau gyda'r wawr i fynd i'r briodas. Daethant i dŷ Ragwel a chael Tobias yn eistedd wrth y bwrdd. Neidiodd yntau ar ei draed a chyfarch Gabael. Torrodd Gabael i wylo a bendithiodd Tobias â'r geiriau hyn: “Yr wyt ti'n ŵr nobl a chywir, ac yn fab i ŵr nobl a chywir, dyn cyfiawn ac aml ei gymwynasau. Rhodded yr Arglwydd fendith y nef i ti ac i'th wraig, i'th dad ac i'th fam-yng-nghyfraith! Bendigedig fyddo Duw am adael imi weld Tobias fy mherthynas, ac yntau mor debyg i'w dad.”