Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cyngor Olaf Tobit

1. Â'r geiriau hyn gorffennodd Tobit ei emyn o fawl. Bu farw mewn tangnefedd, ac yntau'n gant a deuddeng mlwydd oed, a chladdwyd ef yn llawn clod yn Ninefe.

2. Yr oedd yn ddwy a thrigain oed pan ddaeth yr anaf ar ei lygaid, ond wedi iddo gael ei olwg yn ôl bu'n byw yn dda ei fyd. Bu'n hael ei gymwynasau, gan fendithio Duw a chlodfori ei fawredd yn gyson.

3. Ar ei wely angau galwodd ato ei fab Tobias a rhoi'r gorchymyn hwn iddo:

4. “Fy machgen, cymer dy blant a ffo i Media, oherwydd yr wyf fi'n credu gair Duw, y gair a lefarodd Nahum yn erbyn Ninefe. Fe gyflawnir y cyfan. Fe ddigwydd pob peth i Asyria a Ninefe yn union fel y llefarodd cenhadon Duw, proffwydi Israel; ni fydd yr un o'u holl eiriau yn methu. Fe ddigwydd pob peth yn ei amser priodol. Yn Media, felly, y cewch ddiogelwch, nid yn Asyria a Babilon, oherwydd y mae'n gred sicr gennyf y cyflawnir pob gair a lefarodd Duw. Dyma a fydd—ni fydd yr un gair o'r proffwydoliaethau yn methu. Fe wasgerir ein holl berthnasau sy'n preswylio yng ngwlad Israel, a'u dwyn yn gaeth o'u tir da. Bydd y cwbl o dir Israel yn anghyfannedd; a bydd Samaria a Jerwsalem yn anghyfannedd, ac am gyfnod bydd tŷ Dduw mewn galar, wedi ei ddifetha drwy dân.

5. “Ond eto fe drugarha Duw wrthynt, ac fe ddaw Duw â hwy yn ôl i dir Israel. Ailgodant ei dŷ, er na fydd yn debyg i'r tŷ cyntaf, nid nes y daw'r cyfnod penodedig o amser i ben. Wedi hynny, daw pob un yn ôl o'u caethglud ac adeiladu Jerwsalem yn ei holl ogoniant. Fe godir tŷ Dduw ynddi, fel y llefarodd proffwydi Israel amdani.

6. Bydd pob cenedl ar draws y byd, pob un ohonynt, yn troi'n ôl at Dduw mewn parchedig ofn diffuant; ymwrthodant oll â'u heilunod, a fu'n eu harwain ar gyfeiliorn i ffordd anwiredd,

7. a bendithiant y Duw tragwyddol mewn cyfiawnder. Ac fe gesglir ynghyd holl blant Israel a achubir yn y dyddiau hynny ac sy'n wir deyrngar i Dduw. Dychwelant i Jerwsalem a phreswylio yn ddiogel am byth yn nhir Abraham, a roddir iddynt i'w feddiannu. Bydd y rhai sy'n caru Duw mewn gwirionedd yn llawenhau, ond diflannu y bydd y pechaduriaid a'r drwgweithredwyr oddi ar wyneb y ddaear.

8. Ac yn awr, fy mhlant, dyma fy ngorchymyn i chwi: gwasanaethwch Dduw mewn gwirionedd, a gwnewch yr hyn sy'n gymeradwy yn ei olwg ef;

9. a chyfarwyddwch eich plant i wneud yr hyn sy'n iawn, ac i roi elusen, ac i fod yn deyrngar i Dduw a bendithio'i enw bob amser mewn gwirionedd ac â'u holl nerth.

10. “A thithau, fy machgen, dos allan o Ninefe. Paid ag aros yma. Y dydd y byddi'n claddu dy fam wrth fy ochr, ymfuda heb dreulio noson o fewn cyffiniau'r ddinas, oherwydd yr wyf yn gweld bod anghyfiawnder yn rhemp ac anffyddlondeb digywilydd yn uchel ei ben ynddi. Ystyria, fy machgen, yr holl bethau a wnaeth Nadab i Achicar, yr un a'i magodd. Oni orfodwyd ef i ymguddio yn y pridd, ac yntau'n fyw? Ond troes Duw y weithred gywilyddus yn fantais iddo: daeth Achicar allan i olau dydd, tra syrthiodd Nadab i fagl farwol, ac fe'i lladdodd. Am iddo roi elusen, fe ddihangodd Achicar o'r fagl farwol a osododd Nadab iddo, ond syrthiodd Nadab i'r fagl farwol, ac fe'i lladdodd.

11. Ystyriwch, felly, fy mhlant, beth yw ffrwyth elusengarwch, a beth yw ffrwyth anghyfiawnder, oherwydd lladd y mae hwnnw. Ond yn awr y mae fy einioes yn dod i ben.”Rhoesant ef i orwedd ar ei wely, a bu farw. Claddwyd ef yn llawn clod.

12. Wedi marw ei fam, claddodd Tobias hithau wrth ochr ei dad. Yna aeth Tobias a'i wraig i Media, ac ymsefydlu yn Ecbatana yn nhŷ Ragwel ei dad-yng-nghyfraith.

13. Gofalodd Tobias amdanynt yn eu henaint â phob parch, a'u claddu yn Ecbatana yn Media. Etifeddodd Tobias holl eiddo Ragwel yn ogystal ag eiddo Tobit ei dad.

14. Bu farw'n uchel ei barch, ac yntau'n gant a dwy ar bymtheng mlwydd oed.

15. Cyn iddo farw cafodd wybod am ddinistr Ninefe, gan weld ei chaethglud i Media, a gyflawnwyd gan Achiacharus brenin Media. Bendithiodd Dduw am yr holl bethau a wnaeth i bobl Ninefe ac Asyria. Cyn iddo farw, felly, cafodd lawenhau dros Ninefe, a bendithiodd yr Arglwydd Dduw yn oes oesoedd.