Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Tobit yn Ddall

1. Ac Esarhadon bellach yn frenin, dychwelais adref a chael Anna fy ngwraig a Tobias fy mab yn ôl. Adeg y Pentecost, ein gŵyl sy'n ŵyl sanctaidd yr Wythnosau, darparwyd cinio ardderchog ar fy nghyfer ac eisteddais i fwyta.

2. Yr oedd y bwrdd wedi ei osod, a danteithion lawer arno ar fy nghyfer, a dywedais wrth Tobias fy mab, “Fy machgen, dos am dro, ac os digwydd iti ddod ar draws rhywun tlawd o blith ein tylwyth, y gaethglud yn Ninefe, ac yntau'n ffyddlon â'i holl galon, tyrd ag ef, ac fe gaiff gydfwyta â mi. A chofia, fy machgen, byddaf yn aros amdanat nes i ti ddod yn ôl.”

3. Aeth Tobias allan i chwilio am rywun tlawd o blith ein tylwyth. Daeth yn ôl ac meddai, “'Nhad.” “Dyma fi, fy machgen,” meddwn wrtho. “Gwrando, 'nhad,” atebodd yntau, “y mae un o'n pobl wedi ei ladd, a'i gorff yn gorwedd yn y farchnadfa; cafodd ei daflu yno, wedi ei dagu, ychydig funudau yn ôl.”

4. Neidiais ar fy nhraed a gadael y cinio heb ei flasu; cymerais y corff oddi ar y briffordd a'i osod yn un o'm hystafelloedd hyd fachlud haul, er mwyn imi gael ei gladdu.

5. Yna dychwelais ac ymolchi, a bwyta fy mwyd mewn galar,

6. gan gofio geiriau'r proffwyd, y geiriau a lefarodd Amos yn erbyn Bethel, pan ddywedodd:“Troir eich gwyliau yn alar,a'ch holl ganeuon yn wylofain.”Wylais innau hefyd.

7. Wedi machlud haul, euthum allan a thorri bedd a chladdu'r corff.

8. Yr oedd fy nghymdogion yn chwerthin am fy mhen a dweud, “Onid oes ofn arno bellach? Oherwydd pan geisiwyd ef i'w roi i farwolaeth am y weithred hon o'r blaen, fe redodd i ffwrdd, ond dyma fe unwaith eto'n claddu'r meirw.”

9. Y noson honno, wedi imi ymolchi, euthum allan i'm cyntedd a chysgu wrth wal y cyntedd, heb orchudd ar fy wyneb o achos y gwres.

10. Ni wyddwn fod adar y to ar y wal uwch fy mhen; syrthiodd diferion o'u baw yn dwym i mewn i'm llygaid, gan ymdaenu'n smotiau gwyn drostynt. Euthum at y meddygon am driniaeth, ond po fwyaf o ennaint a roddent ar fy llygaid, llwyraf oll y collwn fy ngolwg dan y smotiau gwyn, nes i mi fynd yn gwbl ddall. Bûm heb ddefnydd fy llygaid am bedair blynedd. Yr oedd fy nhylwyth oll yn gofidio amdanaf, ac am y ddwy flynedd cyn iddo ymfudo i Elymais bu Achicar yn gofalu amdanaf.

Dadl ynghylch Myn

11. Yn ystod y cyfnod hwn bu Anna fy ngwraig yn ennill cyflog wrth waith merched.

12. Byddai'n mynd â'i gwaith at ei chyflogwyr ac yn derbyn tâl amdano. Ar y seithfed dydd o fis Dystrus, torrodd y brethyn o'r ffrâm a mynd ag ef at ei chyflogwyr. Talasant ei chyflog yn llawn a rhoi iddi yn ogystal fyn o'r praidd i fynd ag ef adref.

13. Pan ddaeth i mewn ataf, dechreuodd y myn frefu. Gelwais ar y wraig a gofyn, “O ble y daeth y myn yma? Wedi ei ddwyn y mae, onid e? Dos ag ef yn ôl i'w berchnogion. Nid oes gennym hawl i fwyta dim sydd wedi ei ddwyn.”

14. “Fe'i rhoddwyd imi'n anrheg ar ben fy nghyflog,” oedd ei hateb imi. Er hynny, ni allwn ei chredu, a dywedais wrthi am ei roi'n ôl i'w berchnogion. Gwridais o'i blaen o achos hyn. Yna atebodd fi fel hyn: “Beth a ddaeth o'th gymwynasau di? Beth a ddaeth o'th weithredoedd da? Gwrando, y mae dy hanes di'n hysbys i bawb.”