Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14

Hen Destament

Testament Newydd

Tobit 7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Cyrraedd Tŷ Ragwel

1. Ar ôl cyrraedd Ecbatana, dywedodd Tobias wrtho, “Asarias, fy mrawd, dos â mi ar f'union at Ragwel ein perthynas.” Daeth ag ef, felly, i dŷ Ragwel, lle cawsant ef yn eistedd wrth borth y cyntedd. Hwy oedd gyntaf â'u cyfarchiad, ac yntau'n ateb, “Croeso cynnes i chwi, frodyr. Y mae'n dda gennyf eich bod wedi cyrraedd yn ddiogel.”

2. Aeth â hwy i mewn i'r tŷ, ac meddai wrth Edna ei wraig, “Onid yw'r gŵr ifanc yma'n debyg i'm perthynas Tobit?”

3. A dyma Edna yn eu holi: “O ble'r ydych chwi'n dod, frodyr?” “Yr ydym ni,” atebasant, “yn perthyn i feibion Nafftali, y rheini sydd mewn caethiwed yn Ninefe.”

4. Holodd ymhellach: “A ydych chwi'n adnabod Tobit ein perthynas?” “Ydym,” meddent, “yr ydym yn ei adnabod.” “A yw ef yn iach?” gofynnodd hi.

5. “Y mae'n fyw ac yn iach,” meddent, a Tobias yn ychwanegu, “Ef yw fy nhad.”

6. Neidiodd Ragwel ar ei draed a'i gusanu. Â dagrau yn ei lygaid llefarodd y geiriau hyn wrtho: “Bendith arnat, fy machgen! Rwyt ti'n fab i dad nobl a chywir.

7. Y mae'n drueni o'r mwyaf fod dyn mor gyfiawn ac aml ei gymwynasau wedi colli ei olwg.” Rhoes ei freichiau am wddf Tobias ei berthynas, ac wylo.

8. Torrodd Edna ei wraig i wylo o achos Tobit, a'r un modd Sara eu merch. Lladdodd Ragwel fyharen o'r praidd yn arwydd o'i groeso brwd iddynt.Wedi iddynt ymolchi drostynt a golchi eu dwylo, cymerasant eu lle wrth y bwrdd cinio. Yna gofynnodd Tobias i Raffael, “Asarias, fy mrawd, dywed wrth Ragwel am roi Sara fy mherthynas imi.”

9. Digwyddodd Ragwel glywed ei eiriau, a dywedodd wrth y llanc, “Bwyta, yf a bydd lawen y nos hon,

10. oherwydd nid eiddo neb ond ti, fy mrawd, yw'r fraint o gael Sara fy merch yn wraig iddo. Yn yr un modd hefyd nid oes hawl gennyf finnau i'w rhoi hi i'r un gŵr arall ond ti, oherwydd ti yw fy mherthynas agosaf. Ond ni allaf beidio â datgelu'r caswir iti, fy machgen.

11. Rwyf wedi ei rhoi hi'n wraig i saith gŵr o blith ein brodyr, ond bu farw pob un ohonynt yr union noson yr aent i mewn i gydorwedd â hi. Ond bellach bwyta ac yf, fy machgen. Bydd yr Arglwydd yn drugarog wrthych.” Ond atebodd Tobias, “Nid wyf am fwyta nac yfed dim oll yma cyn iti ddyfarnu ynglŷn â'm cais.”

12. “O'r gorau,” meddai Ragwel wrtho, “fe'i rhoddir hi iti yn unol ag ordinhad llyfr Moses, oherwydd o'r nef y daeth y dyfarniad ei bod i'w rhoi iti. Cymer dy berthynas. O hyn ymlaen rwyt ti'n frawd iddi hi a hithau'n chwaer i ti. Y mae hi wedi ei rhoi iti o'r dydd heddiw ac am byth. Bydded i Arglwydd y nef eich llwyddo chwi y nos hon, fy machgen, a chaniatáu i chwi drugaredd a thangnefedd.”

Priodas Tobias a Sara

13. Yna galwodd Ragwel Sara ei ferch. Pan ddaeth ato, gafaelodd yn ei llaw a'i chyflwyno hi i Tobias, gan ddweud, “Cymer hi yn unol â'r gyfraith ac â'r ordinhad sydd wedi ei hysgrifennu yn llyfr Moses, sef fy mod i'w rhoi yn wraig i ti. Cadw hi a dos â hi adref at dy dad yn ddiogel. Bydded i Dduw'r nef sicrhau llwyddiant a thangnefedd i chwi.”

14. Galwodd Ragwel ar ei mam hi a dweud wrthi am ddod â sgrôl, ac ysgrifennodd arni eu cyfamod priodasol, gan egluro hefyd iddo ei rhoi yn wraig i Tobias yn unol ag ordinhad cyfraith Moses.

15. Wedi hynny dechreusant fwyta ac yfed.

16. Yna galwodd Ragwel ar Edna ei wraig a dweud wrthi, “Fy chwaer, gwna'r ystafell arbennig yn barod, a chymer hi yno.”

17. Aeth hithau a chyweirio gwely yn yr ystafell, fel y dywedodd wrthi. Aeth â'r ferch yno, ond torrodd i wylo o'i hachos. Yna sychodd ei dagrau a dweud wrthi,

18. “Bydd ddewr, fy merch. Rhodded Arglwydd y nef iti lawenydd yn lle galar. Bydd ddewr, fy merch.” Yna aeth allan.