Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Deddf yr Offrwm dros Gamwedd

1. “ ‘Dyma ddeddf yr offrwm dros gamwedd sy'n gwbl sanctaidd:

2. Y mae'r offrwm dros gamwedd i'w ladd yn y lle y lleddir y poethoffrwm, a'i waed i'w luchio ar bob ochr i'r allor.

3. Y mae'r cyfan o'i fraster i'w offrymu, sef y gynffon fras a'r braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd,

4. y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.

5. Bydd yr offeiriad yn eu llosgi ar yr allor yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD; dyma fydd yr offrwm dros gamwedd.

6. Caiff pob gwryw o blith yr offeiriaid ei fwyta, ond rhaid gwneud hynny mewn lle sanctaidd; y mae'n gwbl sanctaidd.

7. “ ‘Yr un yw deddf yr aberth dros bechod â deddf yr offrwm dros gamwedd: y mae'r aberth yn perthyn i'r offeiriad sy'n gwneud cymod trwyddo.

8. Y mae'r offeiriad sy'n cyflwyno poethoffrwm dros unrhyw un i gadw iddo'i hun groen y poethoffrwm a gyflwynir.

9. Y mae unrhyw fwydoffrwm wedi ei grasu mewn ffwrn, neu wedi ei baratoi ar radell neu mewn padell, yn eiddo i'r offeiriad sy'n ei gyflwyno;

10. bydd pob bwydoffrwm, boed wedi ei gymysgu ag olew neu'n sych, yn eiddo i bob un o feibion Aaron fel ei gilydd.

Deddf yr Heddoffrwm

11. “ ‘Dyma ddeddf yr heddoffrwm a gyflwynir i'r ARGLWYDD.

12. Os cyflwynir ef yn ddiolchgarwch, dylid cyflwyno gyda'r offrwm diolch deisennau heb furum wedi eu cymysgu ag olew, bisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew, a theisennau o beilliaid wedi eu tylino a'u cymysgu ag olew.

13. Gyda'r heddoffrwm o ddiolchgarwch dylid cyflwyno hefyd offrwm o deisennau o fara lefeinllyd.

14. Deuir ag un o bob math yn offrwm i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD; bydd yn eiddo i'r offeiriad sy'n lluchio gwaed yr heddoffrwm.

15. Rhaid bwyta cig yr heddoffrwm o ddiolchgarwch ar y dydd y cyflwynir ef; ni ddylid gadael dim ohono hyd y bore.

16. “ ‘Os offrwm adduned neu offrwm gwirfodd fydd yr aberth, dylid ei fwyta ar y dydd y cyflwynir ef, ond gellir bwyta drannoeth unrhyw beth a fydd yn weddill.

17. Rhaid llosgi yn y tân unrhyw gig o'r offrwm a fydd yn weddill ar y trydydd dydd.

18. Os bwyteir rhywfaint o gig yr heddoffrwm ar y trydydd dydd, ni fydd yr un sy'n ei gyflwyno yn dderbyniol, ac ni chyfrifir yr offrwm iddo am ei fod yn amhur; a bydd y sawl sy'n ei fwyta yn euog oherwydd hynny.

19. “ ‘Ni ddylid bwyta cig a fydd wedi cyffwrdd ag unrhyw beth aflan; rhaid ei losgi yn y tân. Ond am unrhyw gig arall, caiff unrhyw un glân ei fwyta.

20. Os bydd unrhyw un aflan yn bwyta o gig yr heddoffrwm sy'n eiddo i'r ARGLWYDD, rhaid torri hwnnw ymaith o blith ei bobl.

21. Ac os bydd unrhyw un yn cyffwrdd â rhywbeth aflan, boed yn aflendid dynol, neu'n anifail aflan, neu'n ffieiddbeth aflan, ac yna'n bwyta o gig yr heddoffrwm sy'n eiddo i'r ARGLWYDD, rhaid torri hwnnw ymaith o blith ei bobl.’ ”

22. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

23. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Peidiwch â bwyta dim o fraster gwartheg, defaid na geifr.

24. Gallwch ddefnyddio at unrhyw ddiben fraster anifail wedi marw neu wedi ei larpio, ond ni chewch ei fwyta.

25. Oherwydd torrir ymaith o blith ei bobl unrhyw un sy'n bwyta braster oddi ar anifail y gellir cyflwyno ohono offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.

26. Lle bynnag y byddwch yn byw, nid ydych i fwyta dim o waed aderyn nac anifail.

27. Y mae pob un sy'n bwyta o'r gwaed i'w dorri ymaith o blith ei bobl.’ ”

28. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

29. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Y mae unrhyw un sy'n dod â heddoffrwm i'r ARGLWYDD i gyflwyno i'r ARGLWYDD rodd o'i heddoffrwm.

30. Ei ddwylo ei hun sydd i ddod ag offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD; y mae i ddod â'r braster yn ogystal â'r frest, ac i chwifio'r frest yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD.

31. Bydd yr offeiriad yn llosgi'r braster ar yr allor, ond bydd y frest yn eiddo i Aaron a'i feibion.

32. Rhoddwch glun dde eich heddoffrwm yn gyfraniad i'r offeiriad.

33. Y sawl o feibion Aaron a fydd yn cyflwyno gwaed yr heddoffrwm a'r braster fydd yn cael y glun dde yn gyfran.

34. Oherwydd cymerais frest yr offrwm cyhwfan a chlun y cyfraniad o heddoffrwm pobl Israel, a'u rhoi i Aaron yr offeiriad a'i feibion yn gyfran reolaidd gan blant Israel.

35. “ ‘Dyma'r gyfran o'r offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD a neilltuwyd i Aaron a'i feibion y diwrnod y cyflwynwyd hwy yn offeiriaid i'r ARGLWYDD.

36. Y diwrnod y cysegrwyd hwy gorchmynnodd yr ARGLWYDD i bobl Israel roi iddynt gyfran reolaidd dros eu cenedlaethau.

37. “ ‘Dyma felly ddeddf y poethoffrwm, y bwydoffrwm, yr aberth dros bechod, yr offrwm dros gamwedd, offrwm yr ordeiniad a'r heddoffrwm,

38. a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ym Mynydd Sinai y dydd y gorchmynnodd i bobl Israel gyflwyno'u hoffrymau i'r ARGLWYDD yn anialwch Sinai.’ ”